Llwyddiannau Lleol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Llongyfarchiadau mawr i holl gystadleuwyr ardal Bro’r Wyddfa yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

gan Catrin Elain Roberts
croeso
Clwb Dawns Hudoliaeth
Clwb Dawns Hudoliaeth
Olly Louis Fraser Jones
Esyllt Maelor

Braf iawn oedd croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl yr wythnos ddiwethaf yn Nhregaron, Ceredigion. Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb o ardal Bro’r Wyddfa a wnaeth gystadlu yn y Brifwyl eleni.

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, daeth Olly Louis Fraser Jones o Fethel yn 1af yn y gystadleuaeth Dawns Unigol Disgo o dan 12 oed. Roedd yn wên o glust i glust wrth iddo berfformio’i gampau trawiadol ar lwyfan y Pafiliwn. Llongyfarchiadau mawr iddo!

Daeth Clwb Dawns Hudoliaeth o Benisarwaun yn 2il yn y gystadleuaeth Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd ar gyfer grŵp gyda’u dawns ‘Y Drych’. O dan arweiniad Chloe Roberts ac Iola Bryn, bu i’r clwb berfformio’n wefreiddiol yn eu gwisgoedd disglair. Daeth y grŵp yma at ei gilydd 12 wythnos cyn yr Eisteddfod i ddechrau ar eu routine a mynegodd yr arweinwyr eu bod “Mor falch o fod yn rhan o glwb yn llawn o blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wrth eu boddau’n dawnsio, perfformio a chael hwyl”.

Llongyfarchiadau hefyd i Leisa Gwenllian o Lanrug am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed gyda Fflur Davies.

Yn ogystal i’r cystadlaethau llwyfan, daeth Esyllt Maelor sy’n gyn-athrawes yn Ysgol Brynrefail i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron eleni o dan y ffugenw ‘Samiwel’. Cafodd y Goron ei chyflwyno yn Nhregaron eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Gwres’. Y beirniaid eleni oedd cyn-enillwyr y Goron; Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams. Wrth ddarllen gwaith Esyllt, mynegodd Gerwyn ei fod yn “ddieiriau” ac roedd y beirniaid oll yn unfrydol mai Esyllt oedd yn haeddu dod yn fuddugol. Dywedwyd ei bod hi’n fraint cael coroni “dewin geiriau go iawn”. Pwysleisiodd Esyllt ei bod yn ddiolchgar iawn i’r bobl ifanc y bu iddi ddysgu dros y blynyddoedd, gan gynnwys disgyblion Ysgol Brynrefail, am ei hysbrydoli hi a dangos iddi pha mor bwysig yw geiriau. Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen sy’n rhoi’r goron eleni ac Ifor a Myfanwy Lloyd o’r fridfa sy’n rhoi’r wobr ariannol o £750.