Gwobr yn goron ar flwyddyn lwyddiannus i Antur Waunfawr

Cafwyd cyfle i ddathlu ym Mhrifysgol Bangor!

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
Diversity-and-Inclusion-AwardLlun gan Jason Roberts photography

Criw’r Antur yn y noson wobrwyo

Ar ôl sawl blwyddyn heriol o ymateb i heriau Covid, mae’n braf cael achos i ddathlu ar ddiwedd 2022.

Cynhaliwyd Gwobrau Busnes y Daily Post yn Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Bangor yn ddiweddar, ac enillwyd y Wobr Amrywiaeth a Chynhwysiant – a noddwyd gan Fanc Datblygu Cymru – gan Antur Waunfawr.

Yn ôl y trefnwyr, roedd y wobr yn cydnabod sefydliadau am greu gweithluoedd amrywiol sy’n rhagori yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant, gan gynnwys amrywiaeth oedran, anabledd, rhyw, rhywioldeb, hil a chrefydd.

Diolch i bawb am eu negeseuon ers derbyn y wobr!