‘Gwesty Waunfawr’ ar y teli!

Mae Guto wedi rhoi taith arbennig o’r byngalo

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
122952672_50ccdcee-d3e1-4430Llun Newyddion S4C

Mae Guto wedi rhoi taith arbennig o fyngalo ysbaid Waunfawr i Newyddion S4C yn ddiweddar.

Y byngalo yw datblygiad diweddaraf Antur Waunfawr, sy’n cynnig seibiant i bobol ag anableddau dysgu a’u teuluoedd.

Yn ddiweddar daeth Newyddion S4C draw i gael taith o’r byngalo gan Guto, sy’n galw’r byngalo yn ‘Gwesty Waunfawr.’ Mae blas o’r ymweliad yn fan hyn, ond i’w wylio’n llawn cliciwch yn fan hyn ac ewch i 23.33.

Er gwaethaf y ffaith i’r Antur orfod arafu ei gweithgarwch yn ystod Cofid, mae’r fenter gymdeithasol wedi bod yn gweithio ar ddatblygiad newydd yn y pentref. Bwriad y byngalo yw bod yn encil hygyrch a phwrpasol sy’n darparu seibiannau byr i unigolion bregus a’u teuluoedd neu warcheidwaid.

Mae’r byngalo yn bennod newydd yn hanes y fenter, ac yn benllanw dros 5 mlynedd o waith cynllunio a datblygu

 

Mae Menna Jones, Prif Weithredwr Antur Waunfawr, wedi trafod pwysigrwydd y byngalo:

 

“Mae’r byngalo gwyliau yn ddatblygiad allweddol sy’n nid yn unig yn cynnig ysbaid hanfodol i’r teuluoedd, ond sy’n brofiad cyflawn i’r unigolion hefyd.

 

“Mae’r tŷ yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, ac mae cypyrddau’r gegin wedi eu haddasu’n unol ag anghenion ymwelwyr.

 

“Yn ogystal â hynny, mae gemau pwrpasol sy’n gwneud defnydd o’r synhwyrau yn y byngalo, sy’n cyfoethogi profiad yr ymwelwyr.”

 

Roedd cost terfynnol y datblygiad i gyd, sy’n cynnwys dau gartref i ungolion ag anableddau dysgu ac adnoddau i unigolion ag aml-ofynion dros £1m, ac fe’i hariannwyd yn rhannol gan grantiau a dderbyniwyd gan Cyfenter trwy Menter Mon.

 

Parhaodd Menna Jones:

 

“Roedd 2020 a 2021 yn dwy flynedd galed inni i gyd, ond cafodd y pandemig ergyd anghymesur ar rai mewn cymdeithas, ac roedd heriau penodol yn wynebu pobl ag anableddau.

 

“Ond bu’r byngalo yn hafan i unigolion a theuluoedd mewn cyfnod anodd.

 

“Mae’n fyngalo sy’n perthyn i’r fro leol hefyd, gyda gwaith deunyddiau wedi ei wneud gan artist lleol, Cefyn Burgess, a’r gwaith celf gan Panorama Cymru.

 

“Yn ogystal â hynny, mae’n gartref i gadair farddol Eisteddfod Bentref Waunfawr, 1948. Rhoddwyd defnydd newydd arni gan Cefyn.”

 

Yn ogystal â’r byngalo seibiant, mae dau dŷ newydd ar gyfer 4 tenant ag anableddau dysgu wedi’u hadeiladu ar y safle.

 

Mae Tomos Jones yn weithiwr cymorth cymdeithasol, ac mae wedi ymweld â’r byngalo ysbaid gydag unigolyn lleol. Mae wedi sôn am “effaith gadarnhaol” y byngalo ar iechyd meddwl.

 

“Dydi o byth yn benderfyniad hawdd gadael aelod o’r teulu neu rywun annwyl yng ngofal rhywun arall, hyd yn oed am brynhawn neu ddiwrnod yn unig.

 

“Mae’n ddewis arbennig o bwysig pan fo’r unigolyn yn blentyn, gan ei fod yn fwy dibynnol, ac mae’n bosib eu bod angen cefnogaeth fwy cymhleth ar gyfer eu hanableddau a’u hanghenion iechyd.

“Mae tai antur Waunfawr wedi’u teilwra’n arbennig at lawer o wahanol anghenion. Eu hyblygrwydd yw eu cryfder, gydag ystafelloedd cynllun agored, mynediad i gadeiriau olwyn a thechnoleg aml-synnwyr.

 

“Gall amser byr i ffwrdd oddi wrth blentyn gael effaith gadarnhaol ar les ac iechyd meddwl, wrth fod yn dawel eich meddwl eu bod yn nwylo gofalwr sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.

 

“Mae hefyd yn dod ag agwedd bositif i fywyd unigolion sydd yn ei defnyddio’r byngalo.

 

“Fel gofalwr rwyf yn mynd yno gyda dyn ifanc sydd yn galw’r tŷ yn “Gwesty Waunfawr,” sy’n amlygu nad dim ond noson i ffwrdd o gartref sydd i’w gael yn y byngalo, ond profiad cyffrous.”