Gorymdeithio i Gaernarfon

5 milltir a 13,500 cam yn ddiweddarach

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
274158617_693078695036009

Wedi cyrraedd Caernarfon

Untitled-design-13

Doedd na neb yn cwyno am yr olygfa

Mae criw’r Antur yn haeddu rhoi eu traed i fyny heddiw, ar ôl cerdded 5 milltir o Fryn Pistyll yn Weun i Gei Llechi Caernarfon, i ymuno â’r orymdaith Gŵyl Ddewi.

Yn ystod yr awr a hanner o daith, teithwyd bron i 5 milltir ac fe gerddwyd tua 13,500 cam ar hyd y ffordd. Wedyn, ar ôl cyrraedd, ymunodd y criw â’r orymdaith o gwmpas Castell Caernarfon cyn gorffen ar y maes.

Diolch i Gyngor Tref Caernarfon a’r holl wirfoddolwyr. Amser socian y traed!