Gerddi Weun ar Stad

Golygfa gyfarwydd ar S4C

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Pwy sydd wedi bod yn dilyn cyfres newydd Stad, spinoff o Tipyn o Stad gynt ar S4C?

Un o olygfeydd y gyfres ddiweddaraf ydi’r rhandiroedd. Yno mae Carys a Charlie Gurkah (Gwenno Elis Hodgkins a Wyn Bowen Harries) yn plannu bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer pobol ardal Maes Menai.

Ond bydd nifer ohonoch wedi meddwl bod y gerddi’n edrych yn gyfarwydd.

Wel, dyma egluro pam. Fel y gwelwch o’r lluniau uchod, fe ffilmiwyd y golygfeydd hyn yng ngerddi Antur Waunfawr yn safle Bryn Pistyll yn y pentref.

Mae Tirmon yn un o brosiectau’r Antur sy’n hybu hunangynhaliaeth a bwyta’n iach. Ers 2013, mae staff a thîm o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth gan yr Antur wedi bod yn meithrin rhan o’r tir yn y prif safle yn Waunfawr, ac yn tyfu amrywiaeth helaeth o lysiau a pherlysiau.

Ewch yn ôl i wylio’r penodau ar S4C Clic a chadwch lygad am ein gerddi!