Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Gwaed newydd i fro’r Wyddfa

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd
Untitled-design-19

Kim Jones a Sasha Williams

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, a pha well diwrnod i ddathlu ein merched lleol?

 

Mae Etholiadau Cyngor Gwynedd ar y gorwel, ac mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu’n ffurfiol 7 o ferched lleol fydd yn sefyll am y tro cyntaf fis Mai.

 

Ymhlith y 7 mae ymgeiswyr ward Llanberis a Nant Peris, Kim Jones, ac ymgeisydd ward Bethel a’r Felinheli, Sasha Williams.

Yn ôl Siân Gwenllian AS:

 

“Yn Etholiadau Cyngor Gwynedd yn 2017, roedd cynnydd o 18% yn y ganran o ddynion 45-65 oed a etholwyd.

 

“Ledled Cymru, dim ond 29% o gynghorwyr sy’n fenywod.

 

“Ond, wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae lle i fod yn bositif.”

“Ymgyrch bwrpasol”

 

“Fe redon ni ymgyrch bwrpasol wedi’i thargedu’n lleol, gyda’r gobaith o ethol mwy o ferched ym mis Mai, ac mae’n bleser gen i groesawu 7 o ymgeiswyr benywaidd deinamig mewn seddi allweddol.

 

“Maen nhw’n ferched sy’n perthyn i’w bröydd lleol, ac yn weithgar yn eu hardaloedd.”

Kim Jones

 

Mae Kim yn 26 oed ac yn byw yn Llanberis gyda’i theulu. Mae’n ysgrifennyddes ar Glwb Pêl-Droed Llanberis ac yn aelod o bwyllgor Y Ganolfan. Yn ystod y cyfnod clo roedd yn rhan o’r cynllun Cinio Dydd Sul a Chynllun Cyfaill y Cyngor Cymuned. Mae hefyd ar bwyllgor Râs y Plant.

I ddysgu mwy am Kim, dilynwch y ddolen hon.

Sasha Williams

Mae Sasha yn un o’r ymgeiswyr ar gyfer sedd newydd 2 aelod Bethel a’r Felinheli. Mae’n aelod gweithgar iawn yn ei chymuned ac eisoes yn aelod o gyngor Plwyf Llanddeiniolen.

Yn ychwanegol i hynny mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Bethel, ysgrifennydd adran ddawns Eisteddfod Bethel ac yn Drysorydd ar Glwb Pêl-droed Bethel.