Ffair Haf Brynrefail

Dyma flas ar ddathliad Brynrefail

Nel Pennant Jones
gan Nel Pennant Jones

Dydd Sadwrn bu llawer yn ymweld â’r Caban ym Mrynrefail i gael ymuno yn hwyl yr ŵyl leol. Roedd amrywiaeth o weithgareddau i bob oed, o stondinau nwyddau ail-law i sesiynau chwarae awyr agored.

Yn trefnu’r digwyddiad oedd Kerry Bond a Grŵp Cymunedol Brynrefail. Wrth siarad efo hi, dywedodd Kerry pa mor braf oedd gweld y gymuned gyda’i gilydd yn mwynhau doniau lleol. Soniodd bod y lleoliad yn edrych yn anhygoel a bod hi’n braf gweld gwên ar wynebau trigolion Brynrefail.

Bwriad y digwyddiad oedd casglu arian i gynnal y pentref a chreu digwyddiad glân ac amgylcheddol glên. Roedd pris mynediad am ddim a bwyd a diod i brynu yn y stondinau. Roedd y digwyddiad yn hybu busnesau lleol fel cardiau cyfarch Claire Corfield Carr a chwmni gemwaith Jane’s Crafty Corner.

Roedd adloniant di-ri yn cynnwys dawnswyr, perfformwyr syrcas a cherddoriaeth jazz. Yn wir roedd pawb wedi mwynhau’r dathlu a hyd at 200 wedi mynychu’r ŵyl.

Am i bethau fynd cystal eleni, gobaith y trefnwyr yw cynnal ffair fel hyn yn flynyddol.