Croeso nôl i’r Eisteddfod!

Dechrau da i Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych

gan Catrin Elain Roberts

Er y tywydd anffafriol yn Sir Ddinbych heddiw, braf oedd croesawu’r Eisteddfod yn ôl a mwynhau hwyl a bwrlwm y maes ar ôl dwy Eisteddfod rithiol.

Da iawn i Iwan Rhys Druce o Ysgol Dolbadarn am gystadlu yn y gystadleuaeth Unawd Offer Taro Blwyddyn 6 ac iau heddiw.