Bwrw bol yn Llanbêr

Cyfle i drafod pryderon

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Roedd yn rhaid dod â chymorthfeydd wyneb-yn-wyneb i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth 2020, ac ers hynny bu’n rhaid ymwneud â materion a phryderon etholwyr yn rhithiol neu dros y ffôn.

Ail-ddechreuwyd ar gymorthfeydd stryd yn ara deg ac yn ysbeidiol, ond o’r diwedd, mae modd inni ail-ddechrau go iawn ar gymorthfeydd wyneb-yn-wyneb mewn pentrefi a threfi ar draws Arfon.

Mae llond llaw o’r cymorthfeydd hyn wedi digwydd eisoes, a dydd Sadwrn byddwn yn ymweld â Llanberis.

Byddaf i, eich Aelod yn Senedd Cymru yn ymuno â’r cynghorydd lleol newydd Kim Jones i drafod pryderon a materion sy’n berthnasol i bentref Llanberis.

Er mwyn trefnu apwyntiad, rhowch ganiad i fy swyddfa ar 01286 672076, neu mae croeso ichi e-bostio sian.gwenllian@senedd.cymru.