Baner werdd i Barc Padarn – eto!

Mae’r Parc yn destun balchder yn lleol

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
298923035_558958026025728

Siân Gwenllian AS, staff Parc Padarn a’r Cynghorydd Kim Jones

Mae Parc Padarn yn Llanbêr yn gorchuddio 800 o erwau Eryri.

O fewn ffiniau’r Parc Gwledig mae Amgueddfa’r Ysbyty Chwarel, Rheilffordd Llyn Padarn, Amgueddfa Lechi Cymru, cyfleusterau chwaraeon dŵr, Chwarel Vivian, 8km o lwybrau cerdded, Gwarchodfa Natur, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Coed Dinorwig, Llyn Padarn, Lôn Las Peris a phontŵns ar gyfer canŵs, cychod rhwyfo a chychod hwylio.

Ond mae’r parc wedi cyhoeddi’n ddiweddar eu bod wedi llwyddo i ennill Gwobr y Faner Werdd, sy’n achrediad rhyngwladol a roir i barciau cyhoeddus a mannau agored.

Dyfarnwyd y Faner Werdd am y tro cyntaf yn 1997, ac ar bob achlysur y mae Parc Padarn wedi gwneud cais amdani, maen nhw wedi bod yn llwyddiannus.

Bwriad y cynllun yw cynnal safonau ac arfer da yng ngofodau gwyrdd y DU ac mae’r meini prawf ar gyfer yr achrediad yn cynnwys Rheolaeth Amgylcheddol, Bioamrywiaeth, Tirwedd a Threftadaeth, a Chyfraniad y Gymuned.

Fel yr Aelod lleol sy’n cynrychioli pentref Llanbêr yn Senedd Cymru, cefais gyfle i fynd draw’r wythnos ddiwethaf i longyfarch y criw a diolch iddyn nhw am eu gwaith.

Mi ydan ni wedi magu gwerthfawrogiad dyfnach o ofodau awyr agored yn y blynyddoedd diwethaf. Ymweld â nhw oedd uchafbwynt y dydd i lawer ohonom ni yn ystod cyfnodau clo Covid.

Ac wrth i ni ddechrau ystyried pwysigrwydd meddylgarwch ac effaith gadarnhaol yr awyr agored ac ymarfer corff ar ein lles meddyliol a chorfforol, bydd llefydd fel Parc Padarn hyd yn oed yn fwy hanfodol.

Mae’r Parc yn cyfuno cyfleoedd hamdden, diwylliant ac addysg a dyma’r math o weledigaeth drawsadrannol sydd ei hangen i wneud yn siŵr bod twristiaeth yn gynaliadwy ac yn gweithio i bobol leol hefyd.

Mae’r meini prawf helaeth y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cael y faner werdd yn tystio i waith caled gweithlu ymroddedig ond bychan ym Mharc Padarn.

Rhannwyd un stori hyfryd yn ystod fy ymweliad am griw o blant ysgol o ogledd Lloegr a ddaeth yn eu holau i Barc Padarn flwyddyn ar ôl eu hymweliad cyntaf a chanu anthem genedlaethol Cymru yn Gymraeg a rhoi te o Swydd Efrog i’r gweithwyr.

Er gwaethaf yr heriau y mae’r rhan hon o Gymru yn eu hwynebu, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r heriau hynny, mae hanesion fel yr un yma yn symbol o’r math o dwristiaeth Gymreig a lleol y dylem ymdrechu i’w chreu yn Eryri.