Antur Waunfawr ar restr fer gwobr fawreddog!

Cynhelir y #DPBusinessAwards yr wythnos hon

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Mae Antur Waunfawr wedi cael ein henwebu ar gyfer y Daily Post Business Awards 2022, a byddwn ymhlith y busnesau yn rownd derfynol y Wobr Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae’r wobr yn cydnabod sefydliadau am hyrwyddo gweithlu gwirioneddol amrywiol sy’n rhagori yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant. Mae’r wobr yn dathlu rhagoriaeth ym mhob maes gan gynnwys oedran, anabledd, rhywedd, hil a chrefydd.

Bydd enillwyr pob gwobr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig ddydd Iau ym Mhrifysgol Bangor. Croesi bysedd!