Anrhegion cynaliadwy

Er eich lles chi, yr amgylchedd, a’r gymuned!

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Pam ddylech chi brynu anrhegion Nadolig ar gyfer y plant yn eich teulu o Beics Antur eleni?

Er eich lles chi!

  • Mae beicio yn gwella eich ffitrwydd
  • Mae beicio yn llesol i’ch iechyd meddwl
  • Mae beicwyr yn anadlu llai o lygredd aer na gyrwyr ceir

Er lles eich pocedi!

  • Mae beicio yn ffordd rad ac am ddim i deithio o gwmpas yr ardal
  • Mae gan Beics Antur sêl Nadolig ar hyn o bryd!

Er lles yr amgylchedd!

  • Dydi beics ddim yn rhyddhau allyriadau niweidiol sy’n llygru’r atmosffer, nac unrhyw garbon deuocsid sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.

Er lles y gymuned! 

  • Drwy brynu beic o Beics Antur, rydych yn cefnogi menter gymdeithasol leol, a busnes yng nghanol tref Caernarfon

Mae’r beiciau canlynol ar werth yn Beics Antur ar hyn o bryd: 

  • Dawes Storm | 10-15 oed| £220
  • Concept Thunderbolt | 7-11 oed £150
  • Raleigh Pop | 5-8 oed| £250
  • Frog 62 | 7-11 oed | £410

Cysylltwch â ni!