Pwy anghofiodd am Ddydd Santes Dwynwen?

Mae cyfle i neud iawn am y peth

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Wnaethoch chi anghofio cael anrheg i’ch cariad ar Ddydd Santes Dwynen? Mae Antur Waunfawr yma i chi!

Un o fusnesau Antur Waunfawr ydi’r siop grefftau ym mhentref Waunfawr, ac mae’r unigolion wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn gwneud anrhegion cartref Cymreig.

Mae’r crefftau hardd wedi’u gwneud â llaw yn cynnwys pytiau o gerddi gwerin Cymraeg a dywediadau cariadus.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno prynu un o’r anrhegion Cymreig unigryw eu casglu o Gaffi Blas y Waun ar safle Antur Waunfawr ym Mryn Pistyll, Waunfawr, LL55 4BJ.

Maen nhw hefyd yn danfon yn lleol, ffoniwch 01286 650937.