Aduniad…gyda chadair

O Weun i Weun

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
Unknown-1Darlun S4C

Merch ac wyres y bardd gyda’r gadair

Unknown-1-1Antur Waunfawr

Yr artist Cefyn Burgess gyda’r gadair yn ei ffurf bresennol.

Untitled-design-35

Cofnod yn nyddiadur W. H. Jones, Siop Bryn Pistyll, Waunfawr ar ddydd Sadwrn, 3 Ebrill 1948. Mae W. H. Jones yn nodi mai Emyr Jones, Ty’n Ceunant oedd enillydd y gadair..

Mae’r gyfres deledu Gwesty Aduniad yn dod â phobl ynghyd sydd wedi colli cysylltiad, neu sydd isio cysylltu am y tro cyntaf.

Ond bydd un o aduniadau mwyaf anghyffredin y gwesty yn cael ei ddarlledu fory.

Daethpwyd o hyd i gadair Eisteddfod Bentref Waunfawr 1948 yn y Warws Werdd y prosiect ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon. Adnewyddwyd y gadair gan yr artist lleol Cefyn Burgess. Cyn comisiynu Cefyn i ailwampio’r gadair, roedd wedi ei gorchuddio â lledr du.

Yn 2022 aed ati o ddifrif i geisio dod o hyd i hanes y gadair a’i henillydd. Darganfuwyd mai Emyr Jones, Tŷ’n Ceunant, Waunfawr oedd enillydd cadair yr Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghapel Bethel, Waunfawr (sef safle’r byngalo, cartref presennol y gadair, digwydd bod!)

Emyr oedd yr hynaf o blant Harri Jones a’i wraig. Yn dilyn cyfnod yn y fyddin aeth Emyr i Goleg Normal ym Mangor i hyfforddi i fod yn athro. Bu’n brifathro yn Ysgol Betws-yn-Rhos ger Abergele.

Gwnaed y gadair gan saer o’r enw Thomas Arthur Thomas, un o bartneriaid Thomas & Thomas, yng ngweithdy’r cwmni yng Nghroesywaun.

Fory (nos Fawrth) bydd y gadair yn ymddangos ar y gyfres boblogaidd Gwesty Aduniad ar S4C, pan fydd merch ac wyres bardd y gadair yn ei gweld yn ei ffurf bresennol.

Gwesty Aduniad, Pennod 2, Cyfres 3, Dydd Mawrth 13, 21:00.