Rheolwr CPD Merched Bethel yn rhedeg her 4x4x48

 

gan Gwenno Gibbard Bolton

Yn cychwyn ar 28/04 mi fydd Ben Bolton rheolwr tîm pêl-droed Merched Bethel yn wynebu’r her o redeg y sialens 4x4x48, sef rhedeg 4 milltir bob 4 awr am 48 awr.

Yn dilyn cyfnod coronafeirws a gweld y byd pêl-droed yn dod i stop yma yng Nghymru, mae Ben yn gwneud y sialens er mwyn codi arian i’r clwb ar gyfer y tymor newydd sydd o’n blaenau.

Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad, fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni fel clwb dros y tymor.

Diolch yn fawr ⚽

www.justgiving.com/crowdfunding/benbolton48hourchallenge