Potsio “yn rhemp” yn yr ardal?

Mae’n broblem fawr yn yr ardal, yn ôl Huw Hughes o Fethel

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd
Machair-Loch-09Huw Hughes

Yn ôl Ysgrifennydd Cymdeithas Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, Huw Hughes o Fethel, mae potsio “yn rhemp” yn yr ardal.

 

Yn ôl y gymdeithas, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion o bysgota anghyfreithlon a photsio yn nyfroedd Cymru. Maent yn honni bod y cynnydd yn sgîl effaith gostyngiad yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ôl y gymdeithas dim ond 15 unigolyn sydd yn gweithio i roi’r deddfau pysgota ar waith ledled Cymru.

 

Yn ôl ysgrifennydd y gymdeithas, Huw Hughes, nid yw’r niferoedd hyn “yn ddigonol ar gyfer amddiffyn ein pysgodfeydd yn iawn.”

Ymateb y Gweinidog oedd honni bod Llywodraeth Cymru yn “monitro a, lle bo angen, yn gorfodi cydymffurfiad â rheoliadau pysgodfeydd” ac, hyd at ganol mis Hydref, bod 350 o archwiliadau ar y tir wedi digwydd.

 

Ond mae Huw Hughes yn honni bod y ffigurau hyn yn gamarweiniol, ac mae’n nodi mai mater o “wirio trwydded” yw archwiliadau ar y tir, a bod y broblem yn ymestyn y tu hwnt i bysgota didrwydded.

“Rydyn ni fel pysgotwyr yn ceisio bod yn help llaw wrth drosglwyddo gwybodaeth sy’n adnabod potswyr.

 

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi anfon dogfennau sy’n dangos eogiaid a brithyllod môr a gafodd eu dal yn anghyfreithlon.

 

“Rwy’n credu bod pysgota neu botsio anghyfreithlon yn rhemp yn y mwyafrif o ddyfroedd Gwynedd.”