Ar gyfer rhifyn Ebrill Eco’r Wyddfa aeth Gwernan a Nel, dwy o wirfoddolwyr Tudalen yr Ifanc, i siarad efo Elin Tomos o Nant Peris sydd, yn ei geiriau hi, yn ‘hanesydd sentimental’.
Gwrandewch ar y sgwrs i glywed am ei phrofiad yn cyhoeddi ei chyfrol gyntaf, ei dylanwadau a’i thips i unrhyw berson ifanc sydd efo diddordeb mewn hanes.
Mae Elin yn gyfrannydd cyson i’r wefan hon a gallwch ddarllen ei heitemau yma.
Yn ei heitem ddiweddaraf i ddathlu Diwrnod y Llyfr, dyma ddywed Elin am ei chyfrol ‘Y Mae Y Lle Yn Iach’: Chwarel Dinorwig 1875-1900:
“Bwriad fy nghyfrol yw dadlau bod natur arbennig cymunedau chwarelyddol y gogledd-orllewin yn sicrhau eu bod hwythau yn ardaloedd addas ar gyfer astudiaeth: o ddarpariaeth blaengar Ysbyty Chwarel Dinorwig i’r gofal a ddarparwyd ar yr aelwyd i driniaeth ddifrifol tlodion Dyffryn Peris yn Nhloty Caernarfon. Mae hanes merched yr ardal hefyd yn derbyn cryn dipyn o sylw gen i. Mae hanesion merched ardaloedd y chwareli, ar y cyfan, wedi cael eu hepgor o’r hanesyddiaeth yn llwyr. Rwy’n grediniol mai dim ond trwy chwilio a gwrando ar leisiau gwragedd, gweddwon, merched a chwiorydd y chwarelwyr y mae modd gwneud cyfiawnder o ddifrif â hanes y broydd llechi.”