Defaid direidus yn crwydro strydoedd Llanberis

“Rhywun yn gwybod pwy bia’r defaid ’ma?”

Huw Bebb
gan Huw Bebb

Mae praidd o ddefaid wedi cael ei dâl ar gamera’n crwydro strydoedd Llanberis gyda’r nos.

Cafodd tua 30 ohonynt ei gweld yn cerdded drwy’r pentref, gan hyd yn oed stopio y tu allan i Westy’r Fictoria.

Dangosodd fideo gan ddyn lleol, William Mansoor, fod mwy na dwsin ohonynt yn cerdded gyda’i gilydd wrth ymyl y ffordd.

Y tu ôl iddynt roedd mwy o ddefaid a oedd yn crwydro o gwmpas yng nghanol yr A4086, gan achosi i yrwyr stopio eu cerbydau.

“Rhywun yn gwybod pwy bia’r defaid ’ma? O leiaf 30 tu allan i Vic,” meddai William Mansoor wrth holi am hanes y defaid ar Grŵp Cymunedol Llanberis ar Facebook.

Bu digwyddiad tebyg yn ystod y cyfnod clo cyntaf, pan fu Geifr Gogarth yn crwydro strydoedd Llandudno.