Dathlu rhifyn 500 o’r Eco

Rydym eisiau eich syniadau CHI i ddathlu’r 500!

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa
Clawr-Eco-Chwef-76-1

Clawr rhifyn cyntaf Eco’r Wyddfa, fis Chwefror 1976

Gydag iechyd a thipyn bach o lwc fe ddylem ddathlu cyhoeddi rhifyn rhif 500 o Eco’r Wyddfa fis Ebrill 2022.

Pwy feddylia, pan gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf un yn ôl ym mis Chwefror 1976, beth fyddai dyfodol y papur bro hwn? 46 mlynedd a 500 rhifyn yn ddiweddarach (gobeithio!) mi fydd yr Eco yn dal yma. Rydym wedi byw’n hirach na sawl papur newyddion Cymreig a Phrydeinig a niferoedd di-ri o gylchgronau. Yn wir, mae’r papurau bro ar draws Cymru yn parhau i lwyddo, hyd yn oed mewn oes sy’n troi’n fwy-fwy digidol. 

Mae hyn i gyd yn rheswm i ni ddathlu! Dathlu gorffennol, presennol a dyfodol i Eco’r Wyddfa. Mae’r llwyddiant hwnnw yn llwyr o’ch herwydd chi. Mae’r Eco yn bapur sydd wedi ei gynnal gan wirfoddolwyr a’i ddarllen gan ddarllenwyr ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Mae’r Eco yn perthyn i’r fro, felly pam ddim dathlu a diolch i bawb sydd wedi sicrhau llwyddiant y papur ers y dechrau cyntaf un? 

Dyma alwad felly i chi gysylltu â ni – drwy ebost ecorwyddfa@gmail.com, neu drwy law un o’r golygyddion – os oes gennych chi syniadau am sut y gallwn ddathlu cyhoeddi rhifyn 500. Os fydd rheolau Covid-19 yn parhau i ganiatau gweithgareddau cymdeithasol yna efallai y gallwn gynnal gweithgareddau cyhoeddus? Pa atgofion sydd gennych o gyfrannu neu ymddangos yn yr Eco? Oes yna stori yn aros yn y cof? Sut Eco hoffech chi ei weld i’r dyfodol? 

Buan iawn y daw hi’n ganol fis Mawrth pan fydd hi’n amser i gyhoeddi rhifyn pen-blwydd 500 ar gyfer mis Ebrill, felly plis dechreuwch anfon eich syniadau atom! Mi fedr fod yn barti a hanner!!