*Cyfle i bobl Penisarwaun*!

Y chwilio yn parhau am Ohebydd pentref i’r papur bro

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Mae Eco’r Wyddfa yn parhau i chwilio am Ohebydd i dderbyn newyddion am ddigwyddiadau yn y pentref. Mae’n bentref bywiog gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ac mae pawb yn falch o gael gwybod pa weithgareddau sy’n digwydd.

Oes gennych chi ddiddordeb? Cofiwch fod posib i fwy nag un holi am y newyddion ar y cyd – fel bu Ann a Liz yn ei wneud yn y gorffennol. Os ydych chi’n awyddus dysgu mwy am y cyfrifoldebau, mae croeso i chi gysylltu ȃ ni ar ecorwyddfa@gmail.com