Bwyd Môr Menai yn dod i faes parcio Llanrug

“Rydyn ni eisiau i’r gymuned deimlo mai dyma ydi eu siop bysgod nhw”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ers ei sefydlu yn 2015, mae cwmni Bwyd Môr Menai wedi ehangu eu busnes yn raddol, gyda’r weledigaeth o ailgyflwyno bwyd mor i gymunedau lleol yng Nghymru.

Ar ôl treulio’r cyfnod cynnar yn masnachu o gegin Clwb Rygbi Bethesda, bellach mae modd prynu eu cynnyrch mewn amryw leoliadau yng Ngwynedd a Môn neu archebu drwy restr siopa wythnosol, sy’n cael ei hanfon i aelodau.

Eu lleoliad diweddaraf yw maes parcio tafarn y Penbont, Llanrug.

Mewn sgwrs gyda golwg360 bu un o gyfarwyddwyr y cwmni, Mark Gray, yn trafod pwysigrwydd dysgu, dathlu, a gwerthfawrogi bwyd môr Cymru.

“Cynnyrch gan hyd at wyth o bysgotwr lleol”

Wrth drafod gweledigaeth wreiddiol y cwmni, dywedodd Mark Gray:

“Roedd mwy a mwy o bobl yn holi ynglŷn â’r cynnyrch ac yn trafod pa mor anodd ydi trïo cael gafael ar fwyd môr lleol – gan fod 90% o gynnyrch yn cael ei allforio.

“Fe wnaethon ni gychwyn sefydlu mannau casglu ac erbyn hyn mae ganddo ni 16 lleoliad ar draws Ynys Môn a Gogledd Orllewin Gwynedd, gan gynnwys, Bethesda, Caernarfon a Llanrug.

“Rydym yn prynu cynnyrch gan hyd at wyth o bysgotwr lleol,” meddai, “lobsters, bass, macrel, pollok, Oysters, Menai Mussles.. ac rydym yn eu darparu i rai o fwytai gorau’r ardal, cogyddion ac yn ailgyflwyno bwyd môr i gymunedau lleol.

Un o brif flaenoriaethau’r cwmni, meddai, yw addysgu’r cyhoedd i drin bwyd mor a chynnig ryseitiau blasus i alluogi pobl i’w hail-greu o’u cartref.

“Dydi llawer o bobl ddim yn gwybod sut i breperio a choginio bwyd môr,” eglurai.

“Mae’n ddiddorol – y bobl sydd yn gwybod ydi’r rhai sydd wedi cael y wybodaeth wedi’i basio lawr iddyn nhw drwy’r cenedlaethau.”

“Gwerthfawrogi bwyd a ble mae’n dod o”

Dywedodd bod y gefnogaeth leol wedi bod yn “anhygoel” mewn cymunedau ledled y Gogledd dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’n ymdrech wirioneddol ar y cyd,” meddai, “rydyn ni eisiau i’r gymuned deimlo mai dyma ydi eu siop bysgod nhw a’u bod nhw’n rhan ohoni.

“Rydym wedi sefydlu Clwb Bwyd Môr Menai a … fydd aelodau’n cael mynediad ar-lein i gael recipes a fideos ar sut i baratoi, sut i goginio… ac mae’r cyfan am ddim.

“Y gwahaniaeth allweddol rhwng Prydain a gwledydd tramor,” meddai, “yw dramor, mae pryd o fwyd yn cael ei ystyried i fod yn ddathliad.

“Yma, mae o bron iawn yn cael ei weld fel rhywbeth anghyfleus – felly dyna rydyn ni’n drio ei wneud – annog pobol i fwynhau paratoi bwyd, eistedd i lawr fel teulu, mwynhau amser teuluol a gwerthfawrogi bwyd ac o ble mae’n dod o.”

Bydd Bwyd Mor Menai yn gwerthu eu cynnyrch bob nos Wener rhwng 5 a 5.15 o’r gloch ym maes parcio Tafarn y Penbont, Llanrug.

Mae modd darllen mwy fan hyn.