“Mae Band Llanrug yr hynaf yn yr ardal a ‘da ni isio gweld y band ieuenctid a’r band hŷn yn ffynnu”

Y cynllun grant fyddai’n rhoi dyfodol gwell i Fand Ieuenctid Llanrug

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae cynllun ‘Eich Cymuned Eich Dewis’ yn “rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r bobol” o ran pwy fydd yn derbyn arian a atafaelwyd o droseddwyr yn y Gogledd.

Mae hyd at £2,500 ar gael ar gyfer grwpiau ym mhob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru, a thri grant o hyd at £5,000 ar gyfer trefnwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn tair sir neu fwy.

Nod y cynllun, sydd wedi ei drefnu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) yw i “droi arian drwg yn dda”.

Erbyn hyn, mae’r prosiectau cymunedol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi eu cyhoeddi ac mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu henillwyr.

“Awyddus i fanteisio ar y cyllid hwn gorau fedrwn ni”

Yn eu plith, mae prosiect fyddai’n galluogi i Fand Ieuenctid Llanrug i addasu yn sgil y pandemig.

“Y bwriad, yw gwneud gwelliannau i sicrhau bod ni’n medru o’ leiaf gweithredu pan mae pethau fel hyn yn digwydd,” eglurai’r Cadeirydd Graham Williams.

“Byddai’r cyllid – os ydyn ni’n llwyddiannus – yn golygu bod modd prynu scanner, printer, ffotocopiwr, laptop ac i wneud gwelliannau yn yr adeilad hefyd, i’w wneud o’n fwy addas ar gyfer y plant.

Dywedodd y byddai hefyd yn gymorth i allu prynu offerynnau a cherddoriaeth newydd i’r plant er mwyn “trio cadw pethau i fynd”.

“Felly, ‘da ni’n awyddus i fanteisio ar y cyllid hwn gorau fedrwn ni,” meddai.

“Y plant ydi dyfodol y band”

Wrth drafod arwyddocâd y cynllun grant a phwysigrwydd buddsoddi yn yr offerynwyr ifanc yr ardal, dywedodd:

“Mae’n bwysig i’r gymuned – mae Band Llanrug yr hynaf yn yr ardal a ‘da ni isio gweld y band ieuenctid a’r band hŷn yn ffynnu.

“Ac er mwyn i’r band hyn ffynnu, mae’n rhaid i ni gael yr ifanc yn datblygu  – y plant ydi dyfodol y band,” meddai.

“Troi arian drwg yn dda”

Dyma wythfed flwyddyn cynhelir y cynllun ac yn ystod y cyfnod hwn, dyfarnwyd cyfanswm o £310,000 i 106 o brosiectau amrywiol.

“Rwy’n cael boddhad arbennig bod rhan o’r cyllid yn dod o’r elw o droseddu fel bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a’u helw anghyfreithlon gan y llysoedd ac yn cael ei roi’n ôl i fentrau cymunedol,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Sacha Hatchett.

“Mae’n troi arian drwg yn dda ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan mai pobl leol sy’n adnabod ac yn deall eu materion lleol a sut i’w datrys.

“Mae plismona’n rhan o’r gymuned ac mae’r gymuned yn rhan o blismona ac mae’r cynllun hwn yn ffordd gadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth mewn plismona.

“Mae’n wych gweld y berthynas hon yn ffynnu oherwydd heb y gymuned ni fyddwn yn gwybod beth sy’n digwydd, heb y gymuned ni fyddem yn cael cudd-wybodaeth, ac ni fyddwn yn datrys troseddau.”

Mae modd darllen am yr holl brosiectau sydd ar y rhestr fer, a phleidleisio, drwy glicio’r ddolen hon.