Ar Lan y Môr

Fy nhrefniant i o ‘Ar Lan y Môr’ ar ddydd miwsig Cymru.

gan Gethin Wyn Jones

Dwi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Huddersfield yn astudio Cerdd yn fy nhrydydd blwyddyn.

Trefniant ‘Ar Lan y Môr’ i chwechawd pres ydi’r darn yma, ac mae’n un o nifer o ddarnau Cymraeg i offerynnau pres dwi wedi trefnu fel rhan o fy Mhroject Unigol ar gyfer fy ngradd.

Chwarae mewn bandiau pres ydi un o fy mhrif ddiddordebau a dwi wedi bod yn aelod o Fand Llanrug ers deg mlynedd, a fy niddordeb mewn bandiau pres sydd wedi fy ysbrydoli i fynd ati i wneud y trefniannau yma.