“Angen gweithredu ar frys” i fynd i’r afael â phryder lleol ac i helpu twristiaeth medd AS

Mae’r AS wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr y cyngor i fynegi pryderon am y sefyllfa yn Llanberis

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd

Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon sy’n cynnwys pentref Llanberis wedi ysgrifennu at Dafydd Gibbard i fynegi ei phryderon.

 

Mae’r AS yn honni bod angen “gweithredu ar frys” i leddfu pryderon lleol ac “i helpu’r diwydiant twristiaeth lleol.”

 

Daw sylwadau’r AS yng dilyn anfodlonrwydd yn lleol yn dilyn cynnydd mewn sbwriel, problemau parcio, a thensiynau oherwydd cynnydd mawr o ymwelwyr â’r ardal.

 

Yn ei llythyr at Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd, dywedd yr Aelod o’t Senedd;

 

“Rwyf yn ymwybodol o’r problemau sydd yn codi yn Llanberis yn sgil yr ymchwydd mewn poblogaeth oherwydd fod cynifer o ymwelwyr yn yr ardal.

 

“Mae angen gweithredu er lles y diwydiant twristaidd yn lleol hefyd.

 

“Fydd ymwelwyr ddim yn dod yn ôl i’r ardal os oes sbwriel ac aflendid, problemau parcio a thensiynau yn codi.

 

“Mae’r Cyngor Cymuned wedi ysgrifennu atoch gydag awgrymiadau sydd yn synhwyrol iawn yn fy marn i ac erfyniaf arnoch i ddod a’r holl bartneriaid ynghyd er mwyn gweithredu cynllun yn Llanberis a’r ardal fydd o les i’r boblogaeth leol a’r diwydiant twristaidd.

 

“Hyderaf fod modd symud yn gyflym er mwyn datrys y problemau sydd yn effeithio ar bawb, yn drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.