Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon sy’n cynnwys pentref Llanberis wedi ysgrifennu at Dafydd Gibbard i fynegi ei phryderon.
Mae’r AS yn honni bod angen “gweithredu ar frys” i leddfu pryderon lleol ac “i helpu’r diwydiant twristiaeth lleol.”
Daw sylwadau’r AS yng dilyn anfodlonrwydd yn lleol yn dilyn cynnydd mewn sbwriel, problemau parcio, a thensiynau oherwydd cynnydd mawr o ymwelwyr â’r ardal.
Yn ei llythyr at Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd, dywedd yr Aelod o’t Senedd;
“Rwyf yn ymwybodol o’r problemau sydd yn codi yn Llanberis yn sgil yr ymchwydd mewn poblogaeth oherwydd fod cynifer o ymwelwyr yn yr ardal.
“Mae angen gweithredu er lles y diwydiant twristaidd yn lleol hefyd.
“Fydd ymwelwyr ddim yn dod yn ôl i’r ardal os oes sbwriel ac aflendid, problemau parcio a thensiynau yn codi.
“Mae’r Cyngor Cymuned wedi ysgrifennu atoch gydag awgrymiadau sydd yn synhwyrol iawn yn fy marn i ac erfyniaf arnoch i ddod a’r holl bartneriaid ynghyd er mwyn gweithredu cynllun yn Llanberis a’r ardal fydd o les i’r boblogaeth leol a’r diwydiant twristaidd.
“Hyderaf fod modd symud yn gyflym er mwyn datrys y problemau sydd yn effeithio ar bawb, yn drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.