Eco’r Wyddfa – Un Funud Fach

‘Un Funud Fach’ gan John Pritchard

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Cymwynas Arteta

Roedd Mikel Arteta’n beldroediwr celfydd i dimau fel Barcelona, Rangers ac Everton. Yn ddiweddar, cafodd y gŵr o Wlad y Basg lwyddiant fel is-reolwr Manchester City, ac ers diwedd Rhagfyr ef yw rheolwr Arsenal, clwb arall y bu’n chwarae drosto. Ond mentraf ddweud mai’r peth gorau a wnaeth oedd cyhoeddi ar Fawrth 12 eleni ei fod yn dioddef o Covid-19. Ymhen pythefnos, gallai ddweud ei fod wedi gwella; ac roedd hynny’n newydd da i’w deulu a’i ffrindiau a miloedd o’i gefnogwyr. Diolchwn am hynny, fel y diolchwn am y gwellhad o’r firws a gafodd llawer o bobl eraill, yn cynnwys y Prif Weinidog Boris Johnson.

Gan fod Mikel Arteta wedi gwella ac na fu’n wael iawn, mentraf ddweud y medrwn ddiolch ei fod wedi ei daro’n wael. Oherwydd ei salwch ef oedd un o’r pethau a wnaeth i bobl gymryd bygythiad Covid-19 o ddifrif yng ngwledydd Prydain. Nid cyd-ddigwyddiad ydoedd mai drannoeth ei gyhoeddiad yr aed ati i ohirio gemau Uwch Gynghrair Lloegr, Marathon Llundain a’r gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban. Hyd at hynny, roedd miloedd o bobl yn dal i deithio i gemau a chyngherddau a digwyddiadau torfol eraill, er i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan ddiwedd Ionawr fod y Coronafirws yn Argyfwng Iechyd Byd-eang.

Arteta tra’n chwarae i Arsenal yn 2012

Pe na fyddai Arteta wedi ei daro’n wael byddai’r torfeydd wedi dal i ymgynnull am ddyddiau wedyn. Aeth wythnos arall heibio cyn i Lywodraeth San Steffan gau ysgolion a thafarndai a chlybiau ac ati. Cwta naw diwrnod cyn i Arteta gael ei daro’n wael roedd Boris Johnson, mor ddiweddar â Mawrth 3, er gwaethaf y pryderon ynglŷn â’r firws, yn ymffrostio ei fod yn ysgwyd llaw â phawb, yn cynnwys staff a chleifion ysbyty lle’r oedd rhai cleifion Coronafirws. (Roedd hynny cyn iddo fo’i hun gael ei daro’n wael wrth reswm.) Dylai’r Llywodraeth ddiolch i Arteta am iddo ddeffro pobl i ddifrifoldeb yr haint.

Roedd miloedd o bobl wedi dal yr haint yng ngwledydd Prydain, a rhai wedi marw, erbyn i Arteta fynd yn wael. Ond bu raid aros i un o enwogion y byd pêl droed gael ei daro’n wael cyn y gohiriwyd gemau. Yn aml iawn, dim ond pan fo pethau’n effeithio’n uniongyrchol arnom ni yr ydym yn ymateb iddynt. Gallwn fod yn ddi-hid ynglŷn â phob math o bethau am nad ydynt yn cyffwrdd â’n bywydau ni. Gallwn fod yn ddidaro ynghylch llawer o anghyfiawnderau  a phoenau’r byd am eu bod yn ddigon pell oddi wrthym. Un o’r grasusau mwyaf y mae Duw’n medru ei roi i’w blant yw’r gallu i gydymdeimlo â phobl sy’n dioddef pethau nad oes ganddyn nhw eu hunain brofiad ohonynt. Gweddïwn am y gras i ofalu am y digartref, a ninnau mewn tai cyfforddus; i fwydo’r newynog, a’n cypyrddau’n llawn; i gynnal y claf, a ninnau mewn iechyd; i gydymdeimlo â’r galarus, a ninnau yng nghanol ein llawenydd; ac i gynorthwyo’r tlawd, a ninnau mewn digonedd. Diolchwn am y gallu i gyd-ddioddef ag eraill am i ni fod trwy’r un drin â hwy; ond gweddïwn am nerth i wneud hynny hefyd er i ni, trwy ras Duw, gael ein harbed rhag y drin honno.

JOHN PRITCHARD