Tudalen Chwaraeon Eco’r Wyddfa – Llais y Ferch

Cyfweliad gyda chyfrannwraig newydd i Dudalennau Chwaraeon Eco’r Wyddfa – Mared Rhys Jones!

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Mared – yn rhan o’r Wal Goch

[Erthygl o rifyn Ebrill Eco’r Wyddfa]

Mae’n sicr bod y datblygiad a chynnydd yn niferoedd y merched sy’n cyfrannu at fyd y campau fel chwaraewyr, cefnogwyr, sylwebwyr a chyfranwyr i’r Wasg yn y blynyddoedd diweddaraf yn symudiad i’w groesawu. Teg dweud bod yr Eco wedi ceisio adlewyrchu y tueddiad yma. Y mis yma rwy’n gobeithio datblygu’r themâu ymhellach.

Rwy’n falch o groesawu Mared Rhys Jones o’r Waunfawr ataf yn yr ‘Adran Chwaraeon’. Mae eisoes yn cyfrannu at raglenni chwaraeon y BBC. yn enwedig Ar y Marc. Yn 24 oed mae hi yn ysgrifenyddes gyfreithiol o ran galwedigaeth. Gyda’i thad, Dylan, a’i brawd, Elgan, maent yn drindod sy’n dilyn timau pêl-droed Cymru (dynion a merched), Chelsea a Bangor 1876. Mae ganddi ddiddordeb mewn campau eraill hefyd. Gwyliodd pob gêm yn Ewro 2016 yn fyw, ac os bydd y Coronafirws wedi cilio, gobeithia ddilyn Cymru eto yn Ewro 2020 [2021 ers cyhoeddi’r erthygl] os a phan gynhelir y gystadleuaeth.

Mared Rhys Jones gyda’i thad a brawd

O’r mis nesaf ymlaen bydd Mared yn cyflwyno erthygl fisol ‘Mis Mared’ lle y caiff lwyr hynt i adlewyrchu unrhyw agwedd o fyd y campau a ddeil ei sylw, yn lleol neu’n genedlaethol. Wrth ddiolch a chroesawu Mared atom, dyma fanteisio ar y cyfle i ofyn ambell gwestiwn.

Yn y maes pêl-droed yn benodol wyt ti’n credu fod y gamp i ferched yn cael sylw teg?

O ran lleisiau mae cryn ddatblygiad gyda rhai fel Catrin Heledd (BBC.) a Nici John (Sgorio) bellach mor broffesiynol ac yn lleisiau cyfarwydd. Yn Saesneg mae sawl llais, ym myd athletau yn arbennig. Nid felly y sylw i’r gemau eu hunain. Dewisol iawn yw’r gemau a ddangosir yn fyw o Gystadlaethau Cwpan y Byd a’r Ewros i Ferched. Ac egin pêl-droed merched Cymru ar lefel ryngwladol yn ymddangos dyma gyfle i deledu gefnogi ac felly datblygu y gêm ymysg yr ieuanc.

Beth am safon pêl-droed merched yn lleol?

Yn amlwg cafwyd camau breision. Mae clwb Bethel wedi cael cryn lwyddiant yn y tymhorau diweddar ac yn ymddangos yn denu chwaraewyr o ardal estynedig. Mae’n siŵr mai’r ffordd ymlaen yn lleol yw cael timau pentrefol yn chwarae mewn is-gynghrair ac yna cael un tîm ardal sy’n chwarae ar lefel Gogledd Cymru ac yna gobeithio cyrraedd y Gynghrair Genedlaethol. Wrth gwrs, mae cael ambell chwaraewr yn ennill cap cenedlaethol yn sbardun.

Mared – yn rhan o’r Wal Goch

Sut mae gwella y sefyllfa ymhellach?

Yn ôl ystadegau y Gymdeithas Bêl-droed, mae cynnydd o 50% yn y niferoedd o ferched sy’n aelodau o dimau ers 2016. Rhyfeddol! I gynnal y fath gynnydd rhaid edrych yn fanwl ar sawl agwedd a chynllunio strategaeth fanwl. Bydd hyn yn cynnwys cyllido, cyfleusterau, hyfforddi a strwythr gynghreiriol sy’n gweddu i ardaloedd unigol. Yn amlwg, mae’n haws cynnal gweithgareddau mewn sefyllfa drefol o’i cymharu â chefn gwlad. Rhaid ennyn diddordeb cyn ifanced a phosibl, a sylwi fod y pwyslais ar glybiau bellach ble nad yw ysgolion, oherwydd galwadau cwricwlaidd, yn gallu cyfrannu amser fel o’r blaen.

Fel mae bechgyn yn chwarae pêl-droed/ rygbi yn eu gwersi YC, ydy’r merched yn cael yr un dewis?

Un gwendid mewn sawl clwb yw diffyg cyfathrebu/hysbysebu. Ceir ambell glwb yn gwneud defnydd o Facebook. Anaml y gwelir adroddiadau am gemau, sesiynau hyfforddi, unigolion yn ein Papurau Bro. Cofiwch fod Eco’r Wyddfa yn cael ei ddarllen gan dros 4 000 bob mis. Hysbyseb am ddim i’r clwb. Braf oedd gweld nifer o glybiau merched wedi trefnu tripiau i’r Cae Ras yn ddiweddar i weld Cymru yn curo Estonia.

Newid at gêm y dynion. Wyt ti yn gefnogwr o Ryan Giggs a’i dactegau fel rheolwr?

Rhaid i mi gyfaddef ar y cychwyn nad oeddwn yn ei gefnogi. Yn amlwg, roedd â pholisi o ddatblygu a rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifanc a ddatblygodd drwy waith amhrisiadwy Osian Roberts. Siomedig oedd y canlyniadau cynnar. Rwy’n dal i deimlo fod colli Osian yn gadael bwlch – tebyg i golli Sean Edwards o rengoedd hyfforddi tîm rygbi Cymru. Erbyn hyn mae Giggs wedi ein harwain i rowndiau terfynol Cystadleuaeth Ewrop am yr ail waith. Onid braf gallu cyhoeddi bod gan Giggs waith anodd i gwtogi ei garfan i 23 chwaraewr ar gyfer yr Ewros. Erbyn heddiw mae pawb o bob oedran eisiau bod yn rhan o’r llwyddiant. Os aiff y gystadleuaeth yn ei blaen yr haf yma braf fydd gweld sut mae’n llenwi’r bwlch enfawr o golli Joe Allen.

Uchafbwynt erbyn hyn?

Heb os Ewros 2016. Atgofion am byth. Gwlad fach yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol. Genedigaeth y Wal Goch. Ysbrydoliaeth yr anthem ar adegau tyngedfennol. Gôl Robson-Kanu.

Y chwaraewyr ifanc yn troi’n chwaraewyr rhyngwladol derbyniol. Awyrgylch Bordeaux a Toulouse. Gwneud ffrindiau a theimlo fod gan Gymru gefnogaeth unedig o’r diwedd a honno yn gynyddol Gymreig ei hiaith. Rwyf yn hyderus y gallwn gamu ymlaen o’r grŵp gyda’r Eidal, Twrci a’r Swistir. Yn amlwg bydd chwarae yn Rhufain o dan amgylchiadau y Coronafirws yn amhosib.

Edrych ymlaen felly?

Yn sicr, o gofio fod y tîm merched hefyd gyda chyfle da i gyrraedd Ewros 2021 yn Lloegr. Dylai un canlyniad da yn erbyn y ceffylau blaen Norwy ehangu eu gobeithion. Amser cynhyrfus i gefnogwyr Cymru. Gyda Jayne Ludlow – fel Giggs – â gweledigaeth bendant gobeithio bydd enwau fel Sophie Ingle, Hayley Ladd a Natasha Harding yn ysbrydoli yn union fel Bale, Ramsey ac Allen. A Kiefer Moore, Llanrug wrth gwrs! C’mon Cymru!

Diolch Mared ac edrychwn ymlaen i dy golofnau misol yn yr Eco.