“Dwi’n sefyll o flaen y drych reit aml yn gwisgo’r masg gan feddwl… ydi llygaid fi’n edrych fel bo’ fi’n gwenu?!”

Sgwrs, rant a lot FAWR o chwerthin mewn Podlediad gydag Elin Aaron, perchennog Pizza

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Pinafal ar bitsa, tyndra hefo twristiaid a theimlo fel superhero yn gwneud danfoniadau bwyd  – dim ond rhai o bynciau trafod Podlediad diweddaraf cyfres Blas o’r Bröydd.

Mewn sgwrs gyda Bro360 mae perchennog positif a hynod hoffus llety Gallt y Glyn a bwyty Pizza a Peint yn Llanberis yn trafod ei phrofiadau o fentro i fyd newydd danfodniadau bwyd yn ystod y cyfnod clo.

Cawn glywed am ei hymdrechion i sicrhau bod y bwyty yn cynnal ei naws gynnes a chartrefol, tra hefyd yn sicrhau fod pawb yn saff… Stori am ambell i ymwelydd anghynnes a’i hagwedd di-lol tuag atynt… A sut fod y cyfnod ansicr sydd ohoni wedi gwneud i Elin Aaron fyw bywyd fel spy!

Dydi hon ddim yn un i’w fethu…!

Tanysgrifiwch, rhannwch a hoffwch y Podlediad newydd  gan Bro360, i glywed hanes difyr mwy o fusnesau sydd wedi mentro’n ddiweddar.