Pinafal ar bitsa, tyndra hefo twristiaid a theimlo fel superhero yn gwneud danfoniadau bwyd – dim ond rhai o bynciau trafod Podlediad diweddaraf cyfres Blas o’r Bröydd.
Mewn sgwrs gyda Bro360 mae perchennog positif a hynod hoffus llety Gallt y Glyn a bwyty Pizza a Peint yn Llanberis yn trafod ei phrofiadau o fentro i fyd newydd danfodniadau bwyd yn ystod y cyfnod clo.
Cawn glywed am ei hymdrechion i sicrhau bod y bwyty yn cynnal ei naws gynnes a chartrefol, tra hefyd yn sicrhau fod pawb yn saff… Stori am ambell i ymwelydd anghynnes a’i hagwedd di-lol tuag atynt… A sut fod y cyfnod ansicr sydd ohoni wedi gwneud i Elin Aaron fyw bywyd fel spy!
Dydi hon ddim yn un i’w fethu…!
Tanysgrifiwch, rhannwch a hoffwch y Podlediad newydd gan Bro360, i glywed hanes difyr mwy o fusnesau sydd wedi mentro’n ddiweddar.