Rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Llanberis wedi ei gohirio

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn teimlo cyfrifoldeb i chwarae rhan yn y galwad cenedlaethol i aros adre.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae rali aml-leoliad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai ac a oedd fod i’w chynnal y penwythnos hwn, wedi cael ei gohirio.

Roedd y Rali i fod i’w cynnal yng Nghaerfyrddin, Aberaeron a Llanberis.

Daw’r datblygiad yn sgil cyhoeddiad y prif weinidog Mark Drakeford y bydd clo cenedlaethol dros dro yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o ddydd Gwener (Hydref 23).

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn teimlo cyfrifoldeb i chwarae rhan yn y galwad cenedlaethol i Aros Adre, ac felly wedi penderfynu gohirio tan Dachwedd 21, er bod argyfwng difrifol ym maes tai. Galwn ar ein haelodau a chefnogwyr i barchu’r galwad i aros adref,” meddai Bethan Ruth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Argyfwng cenedlaethol”

Er eu bod nhw wedi cymryd pob gofal ymlaen llaw i leihau unrhyw risg, dywed Ffred Ffransis, aelod blaenllaw o’r Gymdeithas, y byddai cynnal y rali “yn mynd yn groes i’r alwad ganolog i bobol aros adref”.

“Gallwn ni ddadlau bod hyn yn argyfwng cenedlaethol gan ein bod ni mewn peryg o golli cymunedau Cymraeg,” meddai.

“Ond penderfynwyd mai gwell oedd cefnogi ewyllys democrataidd ein senedd ac ein bod yn gohirio am bedair wythnos a threfnu o’r newydd o hynny.”

Cymryd y cyfle

Serch hynny, dywed eu bod am gymryd y cyfle yn y cyfamser i hyrwyddo’r ymgyrch ar-lein.

“Byddwn yn defnyddio’r mis yn y cyfamser yn hyrwyddo ein deiseb newydd sydd ar wefan y Senedd sy’n galw ar y Llywodraeth i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai i sicrhau fod pobl leol yn gallu cael cartrefi yn yr ardaloedd gwledig a thwristaidd lle bu chwyddo prisiau tu hwnt i bob rheswm,” meddai wedyn.

“Byddwn yn annog pobl i arwyddo a rhannu’r ddeiseb, yn ogystal â dilyn ein digwyddiad ar Facebook fel eu bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rali.”

Mae bron i 1,200 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb o fewn y 24 awr gyntaf.

1 sylw

Gwyndaf Hughes
Gwyndaf Hughes

LLe mae’r clic gysylltiad?

Mae’r sylwadau wedi cau.