Nid anfon pobol adref o’u hail dai rŵan ydy’r ateb – Arweinydd Cyngor Gwynedd

Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, sy’n ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i’r argyfwng

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Nid yw Arweinydd Cyngor Gwynedd yn credu ei bod hi’n werth y drafferth anfon pobol adre sydd wedi bod yn hunanynysu yn eu hail dai yn y gogledd.

Mewn cyfweliad fideo arbennig gyda golwg360 roedd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi – bobol Gwynedd – am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Eglurodd Dyfrig Siencyn fod yna deimladau cryf ymysg cymunedau yng Ngwynedd am bobol yn cyrraedd eu hail gartrefi, ond bellach ei fod yn cydnabod nad gorfodi pobol sydd wedi bod yn hunanynysu yn eu hail gartrefi ers wythnosau i fynd am adre yw’r peth gorau i’w wneud.

Mae’n anghyfreithlon i bobol deithio i’w hail gartref, ond mae’n cydnabod “unwaith maen nhw trwy’r drws gallwn wneud dim am y peth”.

“Dwi’n ymwybodol iawn o bobol sydd yn byw yn eu hail gartrefi ers y cychwyn cyntaf. Erbyn hyn dwi ddim yn gweld hi’n briodol i gael pwerau i dyrchu’r bobol yma allan o’u tai.

“O edrych ar y risgiau sydd yna, dwi ddim yn meddwl ei fod o werth y drafferth honno.

“Wrth edrych i’r dyfodol dwi’n credu bod angen edrych ar y ddeddfwriaeth sydd gennym ni i sicrhau nad ydy hyn yn digwydd eto, a’n bod ni’n gallu eu gyrru nhw nôl.”

Pryder na fydd modd i heddlu’r gogledd ymdopi

Er bod Arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud fod Heddlu Gogledd Cymru wedi “ymateb yn arbennig o dda” i’r coronafeirws, mae’n pryderu na fydd yr heddlu yn gallu dygymod â’r pwysau ychwanegol os bydd cynnydd yn nifer y bobol sy’n croesi’r ffin o Loegr.

“Mae yna bryderon dros yr wythnosau nesaf y bydd negeseuon amwys gan San Steffan yn drysu’r sefyllfa,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Dwi’n credu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi ymateb yn arbennig o dda.

“Prin iawn yw’r achosion rydem ni wedi’u gweld hyd yn hyn lle mae pobol yn teithio yn anghyfreithlon.

“Ond os daw nifer sylweddol yma dros yr wythnosau nesaf bydd yr heddlu methu dygymod.”

Gwyliwch y cyfweliad llawn yma:

Dyfrig Siencyn yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Posted by BroWyddfa360 on Thursday, 14 May 2020