Haf poeth 1976 a’r “pla”coch a smotiau duon

Llên Natur Lleol

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa
Llun: Bethan Vaughan Davies (Nefyn)

Erbyn i hyn o eiriau eich cyrraedd, efallai y byddwn yng nghanol haul poeth a sychder mawr (ac efallai ddim wrth gwrs). Anwadal fu ein tywydd erioed, ac yn fwy felly yn ein dyddiau heddiw. Ac fel mae’r tywydd mor annisgwyl felly hefyd y creaduriaid sydd yn ymddangos fel petai o nunlle yn ei sgil. Mae haf 1976 yn gofiadwy o boeth bron i hanner canrif wedyn. Ac i fod yn onest, dwi ddim yn cofio gwres tebyg na chynt na chwedyn – Newid Hinsawdd neu beidio!

A son am greaduriaid annisgwyl, dyma gawson ni am y flwyddyn honno gan Olwen Evans o Rostryfan:

“Y Tywydd poeth ma [cofnod 18 Gorff 2013 yn ‘Tywyddiadur’ Llên Natur] yn gwneud imi feddwl am Haf poeth 1976: cofio fel y bu pla o fuwch goch gota. Gwelais bentyrrau mawr – miloedd – wedi marw o dan feinciau tua Prestatyn. Roedd digon i lenwi sawl rhaw dân. Mae`n ddigon posib mai mis Awst oedd hi – gan fy mod yn byw yn Nhreffynnon adeg hynny a`m rhieni wedi  dod i aros a hithau`n wyliau Haf. Dwi`n cofio`r gwres llethol gan fy mod yn feichiog drwy`r haf ag yn dysgu tan ddiwedd y tymor. Bu i Elenid gael ei geni ar y 13eg o Fedi a bu`n bwrw yn o sownd wedi inni ddod adre o`r ysbyty”.

Roedd Olwen yn llygad ei lle – dyma Robin Stirling (The Weather of Britain 1982): “The famous summer of 1976 came to an abrupt end at the end of August. September was very wet, probably the second wettest since 1727 over England and Wales”. A dyma gofnod Cymraeg ar gefn cerdyn post o Torquay wedi ei ddyddio diwrnod olaf Awst: “Mae yn glawio heddiw – a diolch amdano”. 

Ond beth am y buchod coch cwta? Roedd rheiny yn ddihareb y flwyddyn honno. Daeth straeon o bob man. Gwelodd Ted Ellis fuchod cwta tra’n gleidio 3000 troedfedd yn yr awyr dros Norfolk. Cofnododd cyfaill arall ar 11 Gorffennaf wrth beilota awyren ysgafn ger Manceinion 1500 troedfedd uwchben y ddaear iddo gael ei bledu gan y chwilod fel cenllysg. Glaniodd yng Nglanfa’r East Midlands i wirio’r system awyru – roedd yna gannoedd o’r taclau yn cropian dros gorff yr awyren yn ddim gwaeth ar ôl eu taith annisgwyl!

Dyma stori arall gefais gan fy nghyfaill Steve Roddick o Sir Fôn. Ar ddiwrnod o Awst yr un flwyddyn meddai, roeddwn i’n gwerthu hufen ia o fan ym Mae Trearddur. Glaniodd miloedd o fuchod coch, rhai ar y traeth a rhai ar y môr. Rhedodd y fisitors am eu bywydau (!) o flaen y pla! Roedden nhw ar hyd ffenestri’r fan yn ôl Steve – piti meddai nad oedd camerau ffon symudol gyno ni yr adeg honno!  Clywodd yn ddiweddarach am ddigwyddiadau tebyg yn ne Lloegr. A gwir y gair, dyma stori gan gyfaill arall o’r cyffiniau hynny: “Yn ystod Gorffennaf ac Awst 1976 bu 400 milltir o benllanw de a dwyrain Lloegr yn un lwmp solet hir o fuchod coch cwta marw. Mi wnaeth y cyfaill ychydig o syms yn seiliedig ar ei brofiad, a dyna oedd ei gasgliad, sef bod o leiaf 23,654,400,000 o chwilod ar y penllanw ar unrhyw un adeg. Does neb yn mynd i anghytuno efo fo!

Ydych chi’n cofio haf poeth 1976? Byddai eich straeon yn werth eu clywed… a’u rhannu yn y golofn hon.

Llun: Bethan Vaughan Davies (Nefyn)