Newyddion Pentref Eco’r Wyddfa – Waunfawr

Newyddion pentref Waunfawr o rifyn Ebrill Eco’r Wyddfa nad aeth i brint.

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Gohebydd: Iola Llewelyn Gruffydd, Tegannedd. 01286 650035

iolallew@hotmail.co.uk

Cyn y Coronavirus – dyma beth oedd yn digwydd yn Waunfawr:

Diolch Gair o ddiolch i Nan Roberts am ei geiriau caredig am ein diweddar fam, Margaret Jones, yn yr “Eco”.

Gyda diolch hefyd gan y ddwy ohonom, y plant ac Anti Mary am yr holl gardiau a’r arian a dderbyniwyd er cof;

ond yn enwedig am yr holl negeseuon a’r cymorth a dderbyniodd mam yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan bobl y Waun – er ei bod wedi symud i Fethel. Roedd ganddi ffrindiau amhrisiadwy yn y pentref. Diolch hefyd am y gofal gorau a dderbyniodd gan Dr Huw Gwilym a holl staff y Syrjeri.

Diolch o waelod calon, Sandra ac Ella.

Merched y Wawr Nos Iau, Chwefror 27ain, bu aelodau Cangen y Waun yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn Nhafarn y pentref. Roedd rhai aelodau yn methu bod yn bresennol ac ymddiheurodd Bethan drostynt. Wedi pryd blasus o fwyd a sgwrs fach daeth Bethan i sefyll o’n blaenau gyda ei rhestr o gwestiynau i’n holi am Dewi Sant. Roedd pob un ohonom yn cofio rhyw ychydig o’i hanes ers ein dyddiau ysgol ac roedd y sgôr marciau yn eitha agos i’w gilydd, y pedwar tîm wedi gwneud yn reit dda. Bydd Carys ac Iris yn cymryd rhan yn y Cyfarfod Distawrwydd Noddedig ar yr ugeinfed o Fawrth ac fe gasglwyd arian i’w noddi at achos da.

Cangen yr Urdd Bu rhai o aelodau Mudiad yr Urdd yr Ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod Cylch yr Urdd (Arfon) Dyma’r rhai fu’n llwyddiannus: Parti Canu Unsain, Mirain Llwyd (2il Offeryn pres), Miri Siôn (2il Unawd bl 5 a 6). Llongyfarchiadau i chi i gyda ac i pawb fu’n cystadlu yn yr Eisteddfod. Dyna drueni na chewch rŵan gystadlu yn y Sir ac efallai’r Genedlaethol, ond bydd cyfle i chi eto yn y dyfodol.

Diolch yn fawr i’r rhai fu’n hyfforddi ac i’r rhieni am eu cefnogaeth.

Cystadlaethau Dawnsio Eisteddfod yr Urdd, Cylch Arfon Cynhaliwyd y cystadlaethau yn Neuadd Ysgol Brynrefail. Llongyfarchiadau i Ellie ac Erin oedd yn aelodau o’r grŵp dawnsio Disgo o dan 12 oed Ysgol Ddawns Anti Karen. Llongyfarchiadau hefyd i Cadi, chwaer Ellie, sy’n aelod o’r parti dawns dan 14 oed. Biti garw na fyddwch yn cael y profiad o gystadlu ar y llwyfan mawr, ar waethaf eich holl waith caled.

Arholiadau A ninnau ar fin cyrraedd tymor yr arholiadau, siom i lawer sydd eisoes wedi gweithio yn galed yw na fydd arholiadau TGAU na Lefel A eleni ac mae ansicrwydd mawr am fyfyrwyr sy’n astudio at radd, ac eraill sy’n astudio ar gyfer gwahanol yrfaoedd. Er mor annymunol ydi arholiadau i nifer ohonom, mae ansicrwydd am y dyfodol cyn waethed os nad gwaeth ac rydym yn meddwl am yr holl o bobl ifanc y pentref sydd wedi cael eu heffeithio.

Llongyfarchiadau i Gwyneth (Syrjeri Waun) a’i gŵr John ar ddod yn daid a nain i Begw, merch fach i Dafydd eu mab a Sara, a chwaer fach i Twm a Mabli; i Emma a Chris ar ddod yn daid a nain i Elsi Wyn, merch fach i Efa; i Garry a Christine, Hafan, ar ddod yn hen daid a nain i Elsi Wyn. Ganed merch fach hefyd o’r enw Leia i Kelly a Llion (15 Stad Tŷ Hen gynt) ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Hwyl fawr ar y magu i chi i gyd.

Dymuniadau Gorau a Gwellhad Buan i Ceiron Rowlands, Stad Bryn Golau, wedi iddo gael triniaeth ar ei ben-glin, ac i Martin Beech sydd hefyd wedi cael triniaeth i’w ben-glin, at Brenda Jones a hefyd Margaret Jones sydd yn derbyn gofal yn Ysbyty Eryri. Cofion cynnes iawn hefyd at Derfel sydd yn Ysbyty Gwynedd ac at Dr Raymond Williams sydd yn derbyn gofal mewn ysbyty.

Wedi dod adref o’r ysbyty mae Cadi, Nant; Gwenda, Trefeddyg a Ron Williams. Rydym ni’n cofio atoch i gyd ac yn dymuno’r gorau posibl i chi.

Radio Cymru – braf oedd clywed Mared Rhys, Eryri Wen, yn cyfrannu at y rhaglen bêl-droed Ar y Marc ar fore Sadwrn rai wythnosau yn ôl. [gallwch ddarllen mwy am Mared a’i hoffter am y bel gron yma!] Mae’r rhai ohonom sydd wedi bod yn mynd i’r nosweithiau cwis gynhaliwyd gan CPD Waunfawr yn gwybod yn iawn am wybodaeth helaeth y teulu yma am bêl droed!

Ymddeol Gohebydd Fel y gwyddoch mae Nan Roberts yn ymddeol fel gohebydd i’r Eco wedi nifer fawr o flynyddoedd. Diolch i chi, Nan, am yr holl waith caled yn casglu gwybodaeth ac yn ysgrifennu am yr hyn sy’n digwydd yn Weun. Dyma ddatganiad Nan yn ei geiriau ei hun: “Fel y gwelsoch yn rhifyn mis Mawrth o’r Eco fy mod wedi penderfynu ymddeol o fod yn ohebydd newyddion pentref Waunfawr gan fy mod yn teimlo bod angen gwaed newydd i ymgymryd â’r gwaith… Dymunaf ddiolch i lawer un o’r pentref sydd wedi bod yn gymorth i mi gyda’r gwaith casglu newyddion, yn enwedig i Anti Olwen, diolch hefyd i Athrawon yr Ysgol am anfon newyddion a lluniau o blant yr ysgol i’w cyhoeddi yn rhifynnau yr Eco, mae rhieni y plant yn falch a diolchgar.”

Y cyfnod yma!

Dymuniadau gorau i’r holl bentrefwyr ar yr adeg anodd hwn i ni i gyd. Mae gwybodaeth isod am rai o’r trefniadau sydd mewn lle yn y pentref er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen help, yn ei gael. [yn gywir diwedd mis Mawrth]

Trefniadau cefnogi unigolion bregus yr ardal yn ystod yr argyfwng:

Mae Caffi Antur Waunfawr yn dosbarthu prydau bwyd i’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi: ffoniwch 01286 650937 i archebu neu e bostiwch ifan.tudur@anturwaunfawr.cymru

Mae Sali Burns, Tŷ Capel, sy’n aelod o Gyngor Cymuned Waunfawr wedi bod yn flaengar yn apelio am wirfoddolwyr i ddosbarthu taflenni i pob tŷ yn y pentref gyda rhif cyswllt os ydych angen help. Diolch yn fawr am neud y gwaith pwysig yma Sali, ac i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod y brysur yn danfon y taflenni ac sydd wedi gwirfoddoli i fod yn bwynt cyswllt. Diolch hefyd i’r Cynghorydd Edgar Owen am sicrhau bod y taflenni yn cael eu printio ac am fod mor gefnogol i’r gwaith.

Siop y Pentref – Mae’r siop yn cynnig danfon siopa i’r drws am ddim i’w cwsmeriaid sy’n gaeth i’w cartref. Medrwch dalu am y nwyddau gyda cherdyn dros y ffôn wrth archebu, neu gyda arian parod wrth y drws. Y rhif i gysylltu ydi: 07551392227

Mae’r wybodaeth yn gywir pan yn mynd i’r wasg – ond gall newid.

Syrjeri Waunfawr – Gofynnir i chi beidio ymweld â’r syrjeri yn y Waunfawr na Llanrug i weld Doctor, oni bai eich bod wedi siarad ymlaen llaw â’r syrjeri. Mae apwyntiadau yn parhau gyda’r Nyrs Practis a Gweithwyr Gofal Iechyd ar gyfer profion gwaed ayyb. OND os oes ganddoch symptomau Cornofirws – rhaid i chi ganslo eich apwyntiad. Bydd apwyntiadau sydd wedi eu gwneud gyda Dr yn cael eu cynnal dros y ffôn. Gellir casglu prescriptiwn hefyd o Waunfawr a Llanrug, ond dim ond os nad oes ganddoch symptomau y Coronfirws. Mae’r ffonau yn brysur, a’r staff dan bwysau eithriadol – byddwch yn amyneddgar! Hefyd, mae grŵp Meddygfa Waunfawr Surgery wedi ei sefydlu ar Facebook sy’n cynnwys yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf.

Ysgol Waunfawr – wedi cau i bawb oni bai am blant i weithwyr hanfodol.

Cylch Meithrin Waunfawr – wedi cau.

Tafarn Waunfawr – wedi cau.

Mae pob gweithgaredd cymdeithasol wedi cael ei ganslo am y tro gan gynnwys y canlynol: Oedfaon Capel y Waun, Crefft, Cân a Stori – Capel Waunfawr, Noson Codi Arian i’r Cylch Meithrin gyda Phil Gas a’r Band ar Ebrill 24ain, Merched y Wawr, Cyfarfodydd Cangen Plaid Cymru, Cyfarfodydd Cangen yr Urdd, Eisteddfodau Sir ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.