Newyddion Pentref Eco’r Wyddfa – Deiniolen a Dinorwig

Newyddion pentref Deiniolen a Dinorwig o rifyn Ebrill Eco’r Wyddfa nad aeth i brint.

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

DEINIOLEN

Pen-blwydd Arbennig Iawn Mi fydd Mary Morris (gynt o Pentre Helen, Deiniolen) yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar y 25ain o Ebrill.

Mae Mrs Morris yng nghartref Bodawen ym Morthmadog, ac oherwydd y Coronafeirws ni fydd y teulu yn gallu dathlu gyda hi. Gobeithio y cawn gyfle i ddathlu pan fydd hyn drosodd. Dymuniadau gorau gan y teulu oll a holl drigolion Deiniolen.

Cymdeithas Lenyddol a Merched y Wawr Oherwydd y sefyllfa hynod ddyrys bresennol, mae rhaglenni’r ddau uchod wedi eu gohirio am y tro. Diolch am yr holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn a gobeithio y cawn ail afael yn y gweithgareddau eto ym mis Medi.

Cydymdeimlo Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i nifer o deuluoedd a thrigolion Deiniolen o ganlyniad i brofedigaethau hynod drist.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu’r diweddar John Llewelyn Williams (John Pengolwg) a fu farw ar y 14eg o Fawrth.

Yn yr un modd estynnwn ein cydymdeimlad at deulu Melissa Ann Owen, gynt o Ddeiniolen ond yn fwy diweddar o Rhosgadfan.

Cydymdeimlir gyda theulu John Henry Jones (John Jo), 94 Pentre Helen a fu farw ar Chwefror 19eg.

Estynnwn ein cydymdeimlad at deulu’r diweddar Michael Parry, Bryn Awelon, Clwt y Bont, a fu farw ar Chwefror 17eg.

Cydymdeimlir yn ddiffuant gyda theulu a ffrindiau Gwydion Llŷr Morris a fu farw’n annisgwyl a thrist ar Chwefror 26ain.

Disgyblion Ysgol Gyda thymor yr ysgol wedi gorffen mor fuan, estynnwn ein dymuniadau gorau i bobl ifanc yr ardal i’r dyfodol.

 

DINORWIG

Y Tywydd. Cawsom dywydd difrifol eleni: glaw a gwynt bron bob dydd. Roedd yr hen bobl yn arfer dweud fod mis Mawrth yn fis peryg, ac eleni mae wedi dangos ei ddannedd, gydag eira a gwynt oer – gwynt y dwyrain, sef gwynt traed y meirw. Ond er gwaethaf y tywydd mae’r coed yn blaguro ac yn yr ardd mae’n ymddangos fod y gwanwyn yn y tir. Erbyn i’r “Eco” ddod o’r wasg fe fydd y gwanwyn gyda ni a’r clociau wedi eu troi ymlaen – anodd codi am dipyn. Daeth Mawrth i mewn fel llew, a does ond gobeithio yr aiff allan fel oen ar y trydydd ar ddeg o Ebrill.

Cofgolofn y Chwarelwyr. Tra’n edrych ar y gofgolofn yn yr Allt Ddu y dydd o’r blaen, roedd natur ar ei orau a’r cennin Pedr yn hynod o dlws. Diolch i Mrs Betty Bower am ofalu fod person yn cadw’r lle yn daclus. Diolch Betty. Mae cryn ddiddordeb yn y gofgolofn, a llawer yn falch o gael golwg arni yn ystod y tymor. Y gresyn mwyaf yw fod y biniau sbwriel – dau ohonynt – wedi eu symud. Gadawyd un ar ôl, ond mae sbwriel hyd y lle i gyd. Dywedodd y person a symudodd y biniau nad oedd angen dau yno. Bellach mae rhywrai yn defnyddio’r safle i waredu pethau mwy na’r sbwriel arferol. Gresyn garw fod y Cyngor yn diystyru hyn.

Trafnidiaeth Gyhoeddus. Er ein bod yn ddiolchgar iawn fod gennym fysus oddi yma i Gaernarfon, rydym yn dal i gwyno am ddiffyg cysylltiad â Bangor. Nid yw’n hwylus o gwbl i ardalwyr sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty – taith i Gaernarfon, a bws arall i Fangor. Mae hyn yn anghyfleus iawn i’r henoed ac i rai anabl sydd yn gorfod newid o fws i fws. Beth yw pwrpas bws 3.30 o Fangor os nad oes bws i fynd yno? Ydi cynghorwyr Gwynedd wedi anghofio am Ddinorwig?

Cydymdeimlad. Cydymdeimlwn yn fawr iawn â theulu’r diweddar John Ll. Williams a Gofalaeth Bro’r Llechen Las. Bu farw’n ddisymwth yn Ysbyty Gwynedd ar y 15fed o’r mis, ac y mae’n golled, nid yn unig i’w deulu ond i’r capel hefyd gan ei fod yn hynod selog a pharod ei gymwynas bob amser. Ceir coffa amdano yn y rhifyn nesaf. Anfonwn ein cofion annwyl at Eirwen a’r plant.

Cofion. Ein cofion annwyl at y rhai sydd heb fod yn dda yn yr ardal. Cofion arbennig i Mrs Megan Morris, Minffordd gynt, sydd yn nesau at y 105 oed. Dymuniadau gorau i chwi i gyd.