Newyddion Pentref Eco’r Wyddfa – Brynrefail, Cwm y Glo, Llanrug a Penisarwaun

Newyddion pentref Brynrefail, Cwm y Glo, Llanrug a Phenisarwaun o rifyn Ebrill Eco’r Wyddfa

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

BRYNREFAIL

Yr Eglwys Bresbyteraidd Yn dilyn arweiniad penodol gan ein Cyfundeb, seiliedig ar y cyngor diweddaraf a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cynghorir ni fel Eglwys na ddylem gynnal addoliad cyhoeddus yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Hysbyswyd ni hefyd na fydd y cyfleusterau y manteisiwn arnynt yn Caban ar gael i ni hyd fis Gorffennaf.

Yn y cyfamser, byddwn gydol y cyfnod yn gwneud ymdrech arbennig i gysylltu â’n gilydd ac â phawb yn y gymuned, er amlygu ein gofal a’n consyrn, drwy ffyrdd diogel yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni.

Mae llawer o ewyllys da a chymorth gan y pentrefwyr wedi ei gynnig y barod, yn wyneb rhai anghenion i nifer o drigolion, a mawr yw gwerthfawrogiad pawb o’r caredigrwydd.

Sefydliad y Merched Ein siaradwr gwadd yng nghyfarfod Chwefror oedd Mr Alun Mowll sydd yn swyddog gyda’r defnydd o CPR er achub bywydau. Gyda’i swydd wedi ei lleoli yn Ysbyty Gwynedd, mae yn cynnig ei arbenigedd i Ysbytai Gogledd Orllewin Cymru ac yn darlithio ar y pwnc mewn Prifysgolion. Cawsom adroddiad am ddefnydd a datblygiad y CPR drwy’r oesoedd. Rhoddodd gyfarwyddyd sut i weithredu CPR ac eglurhad manwl ar sut i ddefnyddio diffibrilydd. Cafwyd gair o ddiolch am ei sgwrs gan Carol a gwerthfawrogiad o lywyddiaeth Elinor yn absenoldeb Pat yn dilyn ei thriniaeth pen-glin. Croesawyd Liz yn ôl yn dilyn ei thriniaeth hithau.

Yn wyneb y sefyllfa bresennol, ni chafwyd cyfarfod mis Mawrth i ddathlu Gŵyl Ddewi yng Ngwesty Gwynedd, Llanberis, gyda Elin Thomas. Ac felly y bydd yn awr i’r dyfodol ansicr sydd o’n blaenau gyda chyfarfodydd lleol a rhanbarthol wedi eu rhoi o’r neilltu am rai misoedd.

Pont Penllyn Wedi hir ddisgwyl, yn dilyn y difrod a wnaed trwy ddamwain i un o ganllawiau’r Bont fisoedd yn ôl, mae llawer o weithgarwch wedi bod yn mynd ymlaen ers Chwefror 20fed i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol. Roedd yr hysbysiad y byddai’r gwaith yn cymryd naw wythnos i’w gwblhau yn swnio yn gyfnod hir. Ond erbyn hyn gall pawb sylweddoli beth oedd y bwriad a maint y gwaith mewn llaw, gan fod y naill ochr i’r Bont wedi cael adnewyddiad llwyr gyda ymestyniad i’r bariau diogelwch ar ddwy ochr y ffordd.

CWM Y GLO

Undeb y Mamau Cyfarfu’r aelodau bnawn Mawrth, Chwefror 19eg, yn festri Eglwys Santes Fair. Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan Auriel, a chafwyd gwasanaeth byr. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Rena, Sylvia, Caroline a Nerys. sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Eryri. Derbyniwyd cerdyn o ddiolch, am yr anrheg a’r Cerdyn Nadolig oddi wrth Hilda.

Y gwestion oedd Gwen a Stan Owen, a chafwyd adroddiad ganddynt am eu hymweliad ac Uganda, a chymryd rhan mewn eglwys yno Mwynhawyd y sgwrs gan bawb. Diolchwyd i Gwen a Stan gan Auriel.

Yr oedd Enid Tayler, yr aelod hynaf, yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar yr 8fed o Fawrth a gwahoddwyd pawb i’w chartref. Yn gofalu am y lluniaeth oedd Dorothy a Marjorie Jones. Enillwyd y Raffl gan Val. Terfynwyd y cyfarfod drwy adrodd y Gras yn Gymraeg a Saesneg.

LLANRUG

Eglwys Sant Mihangel

Oherwydd y sefyllfa bresennol, ni fydd gwasanaethau bellach yn y Sefydliad Coffa hyd nes y clywir yn wahanol. Gan bwyll pawb a chadwch yn ddiogel.

Cyrraedd y Cant

Llongyfarchiadau i Mrs Enid Taylor, Bryniau Fawnog ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yn ystod mis Mawrth.

Merched y Wawr Mae cyfarfod 14eg o Ebrill wedi ei ohirio. Yn ddibynnol ar ddatblygiadau, mae’n bosib y bydd y Cyfarfod Blynyddol ar 12fed o Fai hefyd yn cael ei ohirio. Felly hefyd y Trip Blynyddol. Bydd hysbysiad am hyn yn rhifyn mis Mai o’r “Eco”.

Diolch Dymuna Iris, 9 Hafan Elan, ddiolch o galon i bawb am bob caredigrwydd tra y bu yn Ysbyty Eryri ac ar ôl dod adref.

Diolch Dymuna Menna, Shân, Robin, Tim a Ffion a theulu’r diweddar John Wyn Williams, Fferm Minffordd, ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn dilyn marwolaeth gŵr tad, taid a hen daid ffyddlon ar Chwefror 21ain.

Diolch i’r Canon Idris Thomas, Dr Huw Tegid Roberts a Mrs Mair Huws am eu gwasanaeth yn yr Eglwys ac i’r Ymgymerwyr Meinir o Dylan Griffith am eu trefniadau trylwyr.

Bydd y rhoddion a dderbyniwyd er cof am John yn mynd at Ymchwil Dementia a Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.

Profedigaeth Dymunwn gofio yn ddiffuant at Menna a’r teulu, Fferm Minffordd, yn eu profedigaeth fawr a cholled yn dilyn gwaeledd a marwolaeth John.

Cafodd ofal hynod gan y teulu cyn iddo fynd i’r Ysbyty a thra yno. Amser anodd iawn i chi i gyd. Cofiwch yr atgofion hyfryd personol a chan ei ffrindiau eang.

Profedigaeth Cofiwn at Mr Owen Roberts, Glanffynnon, a’r teulu yma yn Llanrug ac ymhellach yn eu profedigaeth o golli ei frawd, Neville, yn ardal Bae Colwyn. Meddwl amdanoch.

Neges i bawb ar yr adeg anodd yma. Cadwch yn saff. Mae’n bosib i chi gysylltu efo aelodau y Cyngor Cymuned os byddwch angen cymorth i gael neges ac yn y blaen.

Mae rhai busnesau lleol hefyd yn cynnig dod â bwyd/nwyddau i’r drws. Codwch y ffôn arnynt am gymorth os y gallwch.

PENISARWAUN

Profedigaeth Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at George a’r teulu, Cartref, yn dilyn y newyddion fod George wedi colli’i dad ym Manceinion yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau mawr i Twm Herd, Cartref, ar ennill dwy ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor. Mae Twm yn gobeithio astudio Cymraeg a Cherddoriaeth yn y coleg.