BETHEL
Coronafirws Mae hwn yn gyfnod pryderus i lawer. Yma ym Methel mae gennym ganran uchel o drigolion hŷn, neu’n gyfyngedig i’w cartrefi. Rwy’n hollol hyderus y bydd naws gymunedol y pentref yn cael ei adlewyrchu dros y cyfnod yma. Rwy’n siŵr y bydd nifer yn barod i gynorthwyo gydag ambell i gymwynas. Y peth pwysicaf yw bod pob un ohonom yn dilyn y cyfarwyddiadau a bod ein ‘aberthion’ ni er lles y gymuned yn gyfan
Newidiadau Fe sylwch fod y rhifyn yma o dan olygyddiaeth newydd, ac hefyd wedi ei argraffu gan Wasg y Lolfa. Fel rhan o’r cytundeb gyda’r Wasg byddwn yn gallu rhoddi darluniau lliw ar bob tudalen bellach. Gan gofio mai un o brif nodweddion papur bro yw croniclo hanes bro, dyma eich cyfle bellach i ddanfon mwy o luniau atom i ychwanegu at gofnod eich stori. Gyda llaw, rydw i’n cario ymlaen fel gohebydd pentref. Danfonwch eich storiau acw – richard.llwyd@yahoo.co.uk.
Yma Eto! Siopau Llanrug, Becws Cwm. Yno bellach byddaf yn cyfarfod trigolion Bethel ar grwydr am eu Daily Post a’u bara. Sydyn iawn gwelwn golli gwasanaeth Cled a Susan.
Oedfaon Ebrill Erbyn hyn mae’r penderfyniad wedi ei wneud gan aelodau y tri enwad i ohirio y gwasanaethau ar y Sul. Hefyd, dosbarthiadau yr Ysgol Sul. Mae’r enwadau hefyd wedi cyhoeddi rheolau ynglŷn â rhifau all fynychu angladdau, priodasau a bedyddiadau yn y gwahanol ganolfannau. Bydd rheolau cyfatebol yn yr Amlosgfa hefyd. Os bydd yr ‘adeilad’ ar gau rwy’n siŵr y bydd ysbryd Gristnogol yn amlygu ei hyn drwy weithred yn yr ardal.
Un enw cyfarwydd fu’n gwasanaethu y tri enwad am sawl blwyddyn yw’r Parch. Gwynfor Williams. Nid yw wedi bod yn dda ei iechyd yn ddiweddar ac wedi cael cyfnodau yn yr Uned Dwys yn Ysbyty Gwynedd. Anfonwn ein cofion, gan ddymuno gwellhad.
Bysiau Mae’n ymddangos nad yw pawb yn hapus â threfniadau’r bysus, gydag amheuaeth a yw ambell fws am gyrraedd mewn pryd. Adroddwyd i mi yn ddiweddar am ymateb plentyn a fu’n disgwyl bws am gryn amser. Trodd at ei mam, pwyntio i’r awyr a dweud, “Ylwch mam mae tair awyren o ‘Merica wedi cyrraedd Bethel cyn bws Llanrug.” Iawn cofnodi cwyn oherwydd mae ein pentrefwyr yn gyson ymwybodol bod trefniadaeth, ac o bosib gwariant ar wasanaethau, yn llifo fwy-fwy o gefn gwlad.
Clwb Bro Bethel Wedi i’r aelodau gael eu croesawu a’u diddanu mor wresog yng nghyngerdd dathlu Gŵyl Ddewi yn yr ysgol penderfynwyd atal cyfarfod mis Mawrth. Efallai bydd yr hoe fach er lles i ni gan fod cryn wledd yn ein haros yn y tri chyfarfod sy’n weddill. Am resymau amlwg ni chynhelir cyfarfod Ebrill, ond gobeithir gwahodd Deryl Jones o Eglwysbach atom y tymor nesaf.
Noson Hyfforddiant y Di-ffib Daeth criw da – ac ystod o oedran – draw i’r Neuadd ar gyfer noson hyfforddiant ar gyfer y di-ffib. Diolch i Tomos Hughes o fudiad Achub Calon y Dyffryn am hyfforddiant buddiol a dealladwy unwaith eto. Diolch hefyd i Sioned am gynnal ein brwdfrydedd.
Diolch Dymuna teulu’r diweddar Bill Bailey ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad a thaid annwyl iawn. Diolch i’r Parch. Marcus Robinson am ei wasanaeth ddydd yr angladd. Diolch hefyd i sawl un a gyfrannodd yn hael er cof am Bill. Bydd yr arian a dderbyniwyd er cof yn cael ei drosglwyddo er lles Ward Peblig.
Ar ran Rhys a minnau hoffwn ddiolch o waelod calon am gefnogaeth teulu, ffrindiau ac ardalwyr tuag atom yn y cyfnod dyrys diweddar. Mae Mary yn cael digon o orffwys ac arwyddion o gryfhau a gwellhad ar y gorwel.
Merched y Wawr Rhannwyd y wibdaith i ddathlu Gŵyl Ddewi gan aelodau cangen MYW yn ddwy ran eleni. Yn y rhan gyntaf mentrodd yr aelodau i Ganolfan Halen Môn ar lannau’r Fenai ger Brynsiencyn. Roedd Eluned yno i’n tywys o gwmpas yr adnodd. Gwelsom y broses sydd yn prosesu dŵr y Fenai yn gynnyrch Halen Môn a gydnabyddir led-led byd bellach. Caed cyfle i brynu’r cynnyrch wedi’r arddangos.
Ymlaen wedyn i Westy’r Anglesey Arms ger Pont y Borth. Yno cynhaliwyd ein Cinio Gŵyl Ddewi a chaed canmoliaeth am yr arlwy blasus. Enillwyr y raffl oedd Cecile, Nan a Gwenan. Mae lluniau o’r ddau ddigwyddiad i’w gweld ar ein gwefan mywbethel.org. Cafwyd adroddiad o weithgareddau’r mudiad gan Mair Read. Atgoffwyd yr aelodau y gellir cyfrannu at Fanc Bwyd Caernarfon trwy’r Cysegr neu gysylltu â RLLJ (670115).
Braf cyhoeddi fod Mary Wyn yn cryfhau yn raddol. Yr un modd cofion at Annwen Jones wedi triniaeth ar ei llygaid ac i Gwyneth Williams sy’n prysur wella.
Hwn fydd y cyfarfod olaf am y tymor. Gobeithio y gallwn drefnu cyfarfod pan fydd y sefyllfa feddygol wedi gwella i ddod â’r tymor unigryw yma i ben.
Caeau Chwarae Pentrefi Yn bresennol mae cryn drafodaeth yn datblygu rhwng y Cyngor Sir a’r Cyngor Cymuned ynglŷn â throsglwyddo cyfrifoldebau am gynnal a datblygu caeau chwarae ein pentrefi. Yn achos Bethel, y darn tir dan sylw fuasai ‘Cae Swings’ tu cefn i Stad Bro Rhos. Os bydd trosglwyddiad yna bydd yn golygu cryn straen ariannol ar y Cyngor Cymuned o gyfeiriad cynnal a chadw, adnewyddu offer (costus iawn) a sicrhau polisi yswiriant cynhwysfawr fuasai’n gefn i hyn oll. I’r perwyl yma mae’r Cyngor Cymuned wedi sefydlu is-banel dan gadeiryddiaeth y Cyng. Gareth Griffiths i wyntyllu yr holl ofynion a dyletswyddau, ac yn bwysicach efallai, y cyfrifoldebau. Eisoes cafwyd cyfarfod gyda Swyddog o’r Cyngor Sir a cheir adroddiadau cyson gan yr is-bwyllgor i’r cyngor llawn. Y mae’r Cyng. Jane Pierce hefyd yn aelod o’r is-banel.
Banc Bwyd Diolch am eich cyfraniadau cyson. Hyd yn hyn ar gyfartaledd mae Canolfan Gasglu y Cysegr yn cyfrannu rhyw 18kg. (tua 40 pwys) o fwyd bob wythnos. Braf rhannu dau brofiad gyda chwi. Un cyfrannwr yn dweud wrthyf fel y byddent yn arfer cerdded heibio y bargen “3 am £.” yn yr archfarchnad erioed gan ”nad wyf eisiau tri”. Bellach, maent yn eu prynu gan gadw dau a chyfrannu’r trydydd i’r Banc Bwyd. Gweddw yn dweud wrthyf ei bod yn gwneud dwy ‘siop fwyd’ bellach. Yr arferol, a gwerth £5 o nwyddau i’r banc bwyd. Olyniaeth wych i’r hen wraig yn y deml. “Yr hyn oedd ganddi, hi â’i rhoddodd.”
Arwain Yn oedfa fore Sul Gŵyl Ddewi yn y Cysegr cymerwyd y rhan dechreuol gan aelodau’r Ysgol Sul. Diolch iddynt am eu cyfraniad ac am roddi gwên ar ein wynebau.
CAEATHRO
Capel Gwasanaethau – Ar y 5ed o Ebrill bydd Gwasanaeth am 2:00pm dan arweiniad y Gweinidog, y Parchedig Marcus Wyn Robinson. Bydd Oedfa’r Pasg yn cael ei chynnal ar y 12fed o Ebrill am 2:00pm dan arweiniad y Parchedig Marcus Wyn Robinson – bydd y Cymun yn cael ei weinyddu i’r aelodau yn ystod yr Oedfa hon. Ar y 19eg bydd Gwasanaeth am 2:00pm dan arweiniad y Parchedig Dafydd Lloyd Hughes.
Tynfa Misol 1af (£40) – Rhif 86: Laura Griffiths (Rhana, Stad Glandŵr); 2il (£25) – Rhif 63: Einir Roberts (3 Erw Wen); 3ydd (£15) – Rhif 114: Iwan (4 Rhes Glan Gwna); 4ydd (£5) – Rhif 68: Richard Jones (Ger Y Twr).