CPD Llanberis yn rhedeg 500 milltir

Codi arian i Plas Pengwaith.

gan Gerallt Morris

Gyda pandemic Covid-19 yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl, mae’r clwb wedi pendefynnu codi arian i Cartref Plaspengwaith, sydd yn gartref i’r henoed yn Llanberis.

Mae aelodau o’r clwb (chwaraewyr presennol ac aelodau o’r pwyllgor) yn mynd i ddefnyddio eu un ymarfer corff y dydd i gyfrannu tuag at targed y clwb o 500 milltir yr wythnos drwy gerdded neu rhedeg. Bydd sesiwn ymarfer corff pob unigolyn yn cael ei logi ar STRAVA a bydd cyfanswm milltiroedd y clwb yn cael ei rhannu ar gyfrynau cymdeithasol y clwb.

Bydd y clwb yn hynod ddiolchgar o unrhyw gyfraniad tuag at ymdrech y clwb i godi arian.

Gallwch gyfrannu at yr achos ar y linc yma.