Karen, Maggie a’r ddrama ar fws o Benygroes 

Adolygiad o ddrama ‘O Ben’groes At Droed Amser’ gan y Theatr Genedlaethol

Beca Brown
gan Beca Brown
6826D28A-2488-42FF-8AA2

Hyd yn oed heb lwyfannau’r theatr draddodiadol mae creu drama yn dal i ddigwydd, er gwaetha’ pawb a phopeth a Covid.

Bu Theatr Genedlaethol Cymru yn rhith-lwyfannu sawl cynhyrchiad digidol dros y cyfnod dyrys yma, a’r olaf o’u plith oedd O Ben’groes At Droed Amser gan Karen Owen a gyda Maggie Ogunbanwo. Myfyrdod – neu ‘pasio remârcs’, chwedl Karen – ar daith fws o bentref Penygroes i Fangor oedd byd y darn gyda themâu fel cariad, cofio, perthyn a hiliaeth yn cael eu trin a’u trafod. Atgofion a sylwadau deifiol Karen Owen wrth basio drwy wahanol ardaloedd sydd i’w clywed, ond mae ganddi gwmni i ran gyntaf y daith, sef Maggie Ogunbanwo o’r Red Lion ym Mhenygroes. Mae Maggie a’i theulu – ei gŵr Femi a’u plant, Toda ac Ileri wedi setlo ym Mhenygroes ers rhai blynyddoedd ac yn adnabyddus am eu cwmni bwydydd – Maggie’s Exotic Foods. Mae Maggie yn wyneb cyfarwydd yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon ac wedi cyfrannu sawl gwaith i gynyrchiadau S4C a Radio Cymru.

Roedd hi’n sioc ac yn siom enbyd felly pan ddaeth Maggie allan o’i thŷ un bore yn ddiweddar a gweld bod rhywun wedi peintio swastika ar ddrws ei garej, a hynny ychydig ddyddiau cyn y brotest Black Lives Matter yng Nghaernarfon.

Roedd cymuned Penygroes yn cywilyddio bod y fath beth wedi gallu digwydd, ac yn ôl Maggie fe fu nifer yn cnocio’i drws yn eu dagrau.

Wrthi’n cychwyn ar y gwaith o greu darn o theatr ddigidol oedd Karen Owen ar y pryd, a gan ei bod yn adnabod Maggie ac oherwydd fod y Red Lion a drws y garej ar siwrna’r bws, roedd Karen yn argyhoeddiedig nad oedd modd adrodd hanes Penygroes heddiw heb gyfeirio at y digwyddiad.

Sgwrs rhwng Karen a Maggie ydi man cychwyn y darn ac mae’r ddwy yn mynd i fol y mater o hiliaeth a rhagfarn ac ofn yr hyn sydd yn ddiarth.

Mae taith y ddwy yn gwahanu am ryw hyd, fel symbol o daith unigryw bob un ohonom er inni fod yn mynd i’r un cyfeiriad yn aml iawn.

Daw’r ddwy ffrind ynghyd wrth gloc Bangor gan berfformio darnau o farddoniaeth ar gân – yn Gymraeg ac yn iaith Yoruba, un o’r dair iaith gynhenid mae Maggie yn eu siarad ers ei magwraeth yn Nigeria.

Mae’r darn yn llawn cynhesrwydd a gobaith am y dyfodol heb osgoi’r cwestiynau anodd ar yr un pryd, ac mae’r cynhyrchiad i’w weld ar sianel YouTube Theatr Genedlaethol Cymru.