Grant Adfer Terfynau (Codi Waliau) Comin Uwch Gwyrfai

Neges gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Grantiau i wella terfynau ar dir Comin Uwch Gwyrfai

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig grantiau i wella terfynau traddodiadol ar dir Comin Uwch Gwyrfai (CL 16) fel rhan o brosiect SMS Cysylltu Comin a Chymunedau Uwch Gwyrfai.

Gweler y canllawiau isod ynglŷn â pha waliau gallasai fod yn gymwys i dderbyn grant. Cysylltwch â dion.roberts@eryri.llyw.cymru am ragor o wybodaeth.

Canllawiau dewis waliau ar gyfer grant SMS Uwch Gwyrfai

Cynigir grantiau i adfer waliau cerrig sydd yn:

  1. Cyfoethogi’r tirlun a gweddu gyda nodweddion tirwedd lleol.
  2. Helpu cadw stoc ar y comin; gwella diogelwch stoc ar y mynydd a lleihau’r risg o stoc i grwydro neu i gŵn eu herlid.
  1. Cyfoethogi bywyd gwyllt yr ardal. Drwy gael waliau sy’n rheoli stoc yn gymwys gellir rheoli llystyfiant a chyfoethogi cynefinoedd.
  1. Wedi eu lleoli ar y comin.

Mae’r grant yn £22.50 y metr, gyda’r gweddill i’w dalu gan y tirfeddiannwr/rheolwr. Os oes diddordeb gennych mewn grant i wella terfynau ar dir Comin Uwch Gwyrfai – cysylltwch â swyddog y prosiect Uwch Gwyrfai – Dion Roberts ar 07917 651973 neu ar