Gohirio digwyddiadau Galeri

Iechyd, lles a diogelwch staff, ymwelwyr, tenantiaid, artistiaid a gwirfoddolwyr yw’r prif ffocws

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Galeri Caernarfon wedi penderfynu gohirio digwyddiadau oherwydd pryderon am ledaenu’r coronafeirws.

Eglurodd Galeri mai Iechyd, lles a diogelwch staff, ymwelwyr, tenantiaid, artistiaid a gwirfoddolwyr yw’r prif ffocws.

Bydd y sinema yn parhau i ddangos ffilmiau tan nos Iau (Mawrth 19), ac mae pob digwyddiad arall wedi eu canslo o ddydd Gwener (Mawrth 20) ymlaen.

Mi fydd y Café Bar yn parhau ar agor rhwng 09:00 – 18:00 (Llun – Sadwrn) a 09:00 – 17:00 (Sul).

Mae’r Galeri hefyd yn gartref i nifer o gwmnïau gwahanol, mae eu swyddfeydd nhw yn parhau ar agor am y tro.

Cefnogi staff yn flaenoriaeth

Eglurodd Galeri bod cefnogi staff a’r cwmnïau preswyl yn flaenoriaeth ganddynt, ac fel aelod o’r sector adloniant, celfyddydau a lletygarwch maen nhw’n barod i gydweithio yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn sicrhau ein bod yn goroesi’r misoedd nesaf.

Diolchodd Galeri hefyd i’r cyhoedd am eu cefnogaeth a galw ar bobol i fod yn amyneddgar wrth iddyn nhw ddelio gyda’r gwaith o ail-drefnu digwyddiadau a chynnig ad-daliadau i gwsmeriaid.

Mewn datganiad dywedodd Galeri:

“Mi fyddwn ni yn cysylltu gyda phawb oedd wedi archebu tocynnau yn cynnig ad-daliadau neu drosglwyddo tocynnau i’r dyddiadau newydd.

“Ein bwriad yw gallu gwneud hyn yn ystod y dyddiau nesaf. Gofynnwn yn garedig i aelodau’r cyhoedd beidio cysylltu, mae gennym ni dîm penodol yn ffonio’r holl gwsmeriaid.”