“Disgyblion wedi gorfod cael mwy o boen meddwl na’r angen” meddai Twm Herd o Ysgol Brynefail

Disgyblion “heb gael y cyfle i brofi eu hunain”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgybl yn Ysgol Brynrefail, Twm Herd, wedi dweud wrth golwg360 bod “disgyblion yn sicr wedi gorfod cael mwy o boen meddwl na’r angen” yn sgil helynt canlyniadau eleni.

Wrth i filoedd o ddisgyblion dderbyn eu canlyniadau Lefel A yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Awst 13) mae nifer wedi beirniadu’r newid munud olaf i’r trefniadau.

Mewn datganiad munud olaf brynhawn ddoe, wnaeth Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, gadarnhau na fyddai marciau lefel A disgyblion Cymru yn is na’u marciau Lefel AS.

Cafodd Twm Herd A* A C D yn ei Lefel A ac mae’n dweud bod disgyblion “heb gael y cyfle i brofi eu hunain.”

“Mae cryn dipyn o bobol dw i’n eu hadnabod wedi cael graddau gwaeth na’r disgwyl ac yn bwriadu apelio,” meddai.

“A gan fod pethau wedi bod yn reit ansicr o ran y system aballu, mae disgyblion yn sicr wedi gorfod cael mwy o boen meddwl na’r angen.”

Ond dywed Twm Herd bod athrawon yn Ysgol Brynrefail wedi bod yn “gefnogol iawn.”

“Roedd ein hathrawon yn gefnogol iawn wrth gyflwyno’r holl opsiynau i ddisgyblion sydd heb wneud cystal â’r disgwyl, clearing prifysgol ac ati.

“Roedd hi’n grêt gallu mynd i mewn a gwybod bod yna gefnogaeth, wnaeth neb adael heb gynllun dw i’m yn meddwl.”

Bydd Twm yn mynd ymlaen i astudio Cymraeg a Cherdd ym Mhrifysgol Bangor fis Medi.