Y Darans yn “hapus i fod yn ôl” yn hyfforddi ar ôl y cyfnod clo

Louis Williams yn gadael y clwb

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae chwaraewyr Clwb Pêl-droed Llanberis yn “hapus i fod yn ôl,” wrth iddynt ddychwelyd i hyfforddi, meddai’r Cadeirydd, Eurwyn Thomas wrth golwg360.

“Dechreuodd y garfan hyfforddi wythnos diwethaf, gan gadw at y canllawiau i gyd, golchi dwylo ac ati, ac mi aeth hi reit dda,” meddai.

“Dw i’n meddwl fod yr hogiau yn hapus i fod yn ôl a chael gweld eu ffrindiau ac ati.

Ond un dyn na fydd yn dychwelyd i chwarae i’r ‘Darans’ y tymor hwn fydd Louis Williams.

Mae ef yn gadael y clwb ar ôl 9 mlynedd, gan chwarae dros 400 o weithiau i’r clwb.

“Mae o wedi bod yn un o’n chwaraewyr gorau ni dros y blynyddoedd ac mi fydd hi’n chwith ar ei ôl o,” meddai Eurwyn Thomas.