Cynghorwyr lleol yn galw am weithredu tros barcio Eryri

Gofyn am gosbau trymach a threfn barcio a theithio o Lyn Rhonwy

Ceir yn llenwi maes parcio Pen y PasEric Jones (CCA 2.0)

Maes parcio Pen y Pas ar ddiwrnod arferol

Mae cynghorwyr Sir wedi galw ar Gyngor Gwynedd a Pharc Eryri i weithredu er mwyn lliniaru problemau parcio Eryri.

Dywed un cynghorydd lleol bod angen cyflwyno dirwyon o £200 ar geir sy’n parcio’n anghyfreithlon a chynghorydd arall yn dweud bod pobol leol yn wynebu wythnosau o drafferthion.

Roedden nhw’n ymateb i broblemau traffig dros y penwythnos, lle cafodd yr heddlu eu galw gan fod 500 o geir wedi parcio yn anghyfreithlon ym Mhen y Pas wrth droed yr Wyddfa.

“Methiant Cyngor Gwynedd a’r Parc” – cynghorydd Llafur

“Mi roedd gweld y llanast ym Mhen y Pas dros y penwythnos yn dangos methiant Cyngor Gwynedd a Pharc Eryri i daclo’r broblem barhaus yma,” meddai’r Cynghorydd Llafur, Sion Jones, wrth golwg360.

Mae’n awgrymu bod modd defnyddio hen safle chwarel Glyn Rhonwy ar gyrion Llanberis i gynnig gwasanaeth parcio a theithio gan ddweud bod angen “camau enfawr i drio sicrhau ’na fydd hyn yn digwydd eto.

“Mae angen hefyd edrych ar gynyddu’r ddirwy am barcio ar y lon ym Mhen y Pass a Nant Gwynant i £200.00 plys, ac edrych ar gosbau eraill ynghyd â hynny. Mae’n sefyllfa gwbl annerbyniol, a bydd rhaid cymryd camau wythnos yma er mwyn rhoi cynllun cadarn yn ei le.”

“Fel hyn fydd hi rŵan” – cynghorydd Llanberis

Mae pobol Llanberis yn wynebu wythnosau o drafferthion tebyg i rai’r penwythnos diwetha’, meddai Cynghorydd Sir Annibynnol Llanberis, Kevin Jones.

“Fel hyn fydd i rŵan, ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio yn Lloegr maen nhw i gyd yn dod,” meddai. “Mi fydd yn rhaid i’r Cyngor a Pharc Eryri fynd i’r afael â’r broblem.”

Roedd problemau pellach wedi codi, meddai, wrth i drigolion Llanberis gadw at reol pellter dau fetr Llywodraeth Cymru, tra bod ymwelwyr yn cadw at reol un metr Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae nifer fawr o bobol leol yn cadw draw ac yn aros gartref yn sgil hyn.”

Angen cynllun tymor hir – Plaid Cymru

 Mae Plaid Cymru wedi galw am gynllun hir-dymor i liniaru problemau parcio Eryri.

“Roedd y golygfeydd ym Mhen y Pas dros y penwythnos yn wirioneddol syfrdanol,” meddai datganiad ar y cyd Hywel Williams, Liz Saville Roberts a Siân Gwenllian, ASau ac ASC yr ardal.

“Ni all unrhyw beth esgusodi ymddygiad y rhai adawodd eu cerbydau ar ddarn eithriadol o brysur o’r A4086 heb fawr ystyriaeth i ddiogelwch cyd-ddefnyddwyr ein ffyrdd a’n gwasanaethau brys.”

Maen nhw wedi galw am “ateb parhaol”, sy’n rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd a’r economi a’r gymuned leol.”