“Cyfnod heriol” i Glwb Pêl-droed Llanrug

Clwb Pêl-droed Llanrug yn “canolbwyntio ar ffitrwydd” wrth ail ddechrau hyfforddi

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Wrth i Glwb Pêl-droed Llanrug baratoi ar gyfer y tymor newydd, mae’r Cadeirydd, Emyr Pritchard, wedi dweud bod y clwb yn wynebu “cyfnod heriol.”

Dechreuodd y garfan hyfforddi bythefnos yn ôl, gan gadw at ganllawiau diogelwch.

“Mae o’n gyfnod heriol oherwydd mae gennym ni dal bethau sydd angen eu talu ond does dim arian yn dod i mewn.

“Rydym ni wedi llwyddo i gadw’r clwb yn sefydlog ond ‘dan ni ddim wedi derbyn grant na dim byd felly i’n helpu ni.”

Mae’r garfan wedi bod yn “canolbwyntio ar ffitrwydd” ers ail ddechrau hyfforddi, meddai Emyr Pritchard.

“Newydd ddechrau hyfforddi ers rhyw bythefnos yda ni, gan ganolbwyntio ar ffitrwydd.

“Dim ond hynna allwn ni wneud gan fod canllawiau yn dal i fod mewn grym.

“Er hynny, does dim syniad gennym ni pryd fydd y tymor yn ail ddechrau, mae popeth up in the air braidd.”