Dau blentyn o Waunfawr yn cael cyfle i ymweld ag Ysgol Aksharaa, Kathmandu 2020

Hanes sut y cafodd Gruff ac Alffi, Bryn Eithin y cyfle hwn

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Yn dilyn misoedd o drefnu, ar ôl gyrru degau os nad cannoedd o ebyst, oriau maith o  ymchwilio’r wê a chwpwl o bigiadau poenus gan y doctor, mi roeddwn i (Daron), Lowri, fy ngwraig, Gruff ac Alffi (y plant) yn barod i ddechrau ar ein taith am Kathamandu. 

Fel rhan o’m gwaith fel athro yn Ysgol David Hughes, roeddwn wedi bod yn llwyddiannus yn fy ymgais am grant gan y Cyngor Prydeinig a oedd yn rhan o broject “Connecting Classrooms” ble mae ysgolion o amgylch y byd yn cael eu cysylltu gyda’i gilydd i gydweithio ar wahanol brosiectau. Roeddwn i wedi dewis cydweithio gydag Ysgol Aksharaa, Kathmandu sef yr ysgol oedd yn apelio fwyaf ataf o’r rhestr a roddwyd i mi. 

Fel rhan gyntaf i’r prosiect roedd Rama Bhattari (prifathrawes Ysgol Aksharaa) wedi  ymweld â ni yng Nghymru. Yn ogystal ag ennill profiadiau addysgiadol, roedd rhaid darparu cyfleoedd i Rama ymweld â’r ardal leol a blasu ychydig o ddiwylliant Cymru. Daeth draw am swper atom i Bryn Eithin ac yn ystod y pryd bwyd y cynnigodd “Please bring your family with you to Kathmandu”.

Felly doedd dim rhaid meddwl dwywaith cyn derbyn y cynnig hael, a pharatoi i fynd a’r teulu draw i Kathmandu gyda mi.  Roedd yn eitha hwyr arnom yn glanio yn Kathmandu, maes awyr bychan ac felly  roeddem yn hapus iawn i weld Rama yn aros amdanom tu allan gyda’i char a’i gyrrwr a chael siwrna hollol gyfforddus i’w chartref yn ardal Pepsi Cola o’r ddinas (wedi ei henwi ar ôl y ffatri enfawr Pepsi gerllaw). Ar ôl cyrraedd y tŷ, a setlo mewn dyma gael ein pryd cyntaf – hyn yn dipyn o strach gan fod rhaid bwyta gyda ein dwylo. Teg oedd dweud fod yna fwy o fwyd ar ein hwynebau nag oedd yn ein boliau! 

Roedd Rama am wedi trefnu i Niradan (ei gyrrwr personol) edrych ar ein holau am y ddau ddiwrnod cyntaf, am ei bod hi allan o’r dre ar fusnes. Felly cawson ein tywys o amglych Kathmandu gan ymweld â themlau a mannau cysegredig y ddinas. Roedd traffig Kathmandu yn ddychrynllyd. Ynghanol y motor-beics a cheir mi roedd na wartheg, cŵn a mwnciod gwyllt.

Rhybuddiwyd yn aml i beidio mynd yn agos at y cŵn a’r mwnciod a oedd yn medru brathu yn gas. Roedd hen chwerthin gan yr hogia o weld mwnci yn mynd i fewn i gar gan ddwyn ffrwythau ohono yna eu bwyta ar y to.  Profiad bythgofiadwy a gawsom tra’n crwydro’r ddinas oedd pan ddaethom ar draws  angladd ar lan afon Bagmati. Yn ôl traddodiad eu crefydd maent yn llosgi’r corff ar bentwr o goed ar lan yr afon cyn taflu’r gweddillion i mewn i’r afon. Nid oeddem yn medru credu fod pobol yn golchi eu dillad yn yr afon ychydig o fetrau i lawr o’r angladd! Peth arall a’n trawodd oedd fod sbwriel yn amlwg yn broblem enfawr. Doedd ‘run bin sbwriel i’w weld a’r anifeiliaid gwyllt oedd o amgylch y lle i gyd yn chwilio am fwyd yng nghanol y llanast. 

Doedd fawr ddim Saesneg gan Niradan a’n Nepali ni yn brinach fyth, ond roedd o  wedi dotio gyda Gruff ac Alffi ac yn aml byddai yn gafael ynddynt gan ddweud “You – strong boy”. O’u cymharu â phlant yr un oed yn Kathmandu, roedd Gruff ac Alffi yn dipyn mwy mewn maint.  Mae pobol Kathmandu yn mwynhau dathlu, a doedd dim angen gofyn dwy waith os  oeddem yn fodlon mynychu parti priodas dau o athrawon yr ysgol gyda’r nos. Cawsom ein trin fel y teulu brenhinol, cael ein rhoi i eistedd gyda’r cwpwl priod a digonedd o fwyd a diod yn dod ein ffordd. Cafodd y cynllun o fynd i’r gwely yn gynnar cyn mynd i’r ysgol ei hen anghofio yn ystod y dathlu! 

Y bore wedyn roeddem ar ein ffordd yn fuan i’r ysgol ond mae’n rhaid fod Alffi wedi bwyta gormod yn y briodas gan ei fod yn taflu i fyny a gyda poen yn ei fol, ond ar ôl awr gyda’r nyrs ysgol mi oedd yn ôl at ei hun.

Roedd rhaid i mi fynd i’r ysgol uwchradd gyda Gruff ac yno roedd rhaid dysgu nifer o wahanol ddosbarthiadau. Bu’n ddipyn o sioc deall fod rhaid tynnu fy esgidiau cyn mynd mewn i’r ddosbarth a’u gadael efo’r pentwr enfawr o esgidiau tu allan i’r dosbarth – dychmygwch yr arogl! 

Addysgu ynglŷn â “Fake News” oedd nôd a bwriad y gwaith gyda’r Cyngor Prydeinig.  Roedd rhaid i mi ddysgu nifer o wahanol ddosbarthiadau gan ganolbwyntio ar y pwnc hwn. Roedd yn galonogol iawn gweld y gwahanol ddisgyblion, y bum yn eu dysgu drwy’r wythnos, yn creu darnau o “Fake News” ei hunain ac yn awyddus i fynd a’r gwaith adref i’w ddangos i’w teulu. 

Aeth Alffi a Lowri (sydd hefyd yn athrawes) ymlaen i’r adran gynradd i arsylwi gwersi.  Ond cafwyd dipyn o sioc pan ofynnwyd i Lowri ddysgu! Gofynnwyd iddi adrodd un o chwedlau Cymru. Doedd dim i’w wneud ond adrodd hanes Beddgelert a oedd yn addas iawn gan fy mod wedi mynd a Rama draw i Feddgelert tra oedd hi gyda ni ac o ganlyniad aeth y stori i lawr yn dda iawn. Chwarae teg, roedd cymorth Alffi i helpu Lowri adrodd y stori o flaen y gynulleidfa o fudd a roedd pob disgybl yn gwrando yn astud. 

Bu’n rhaid i Alffi ateb nifer o gwestiynau o flaen y dosbarth am Gymru, a thasg arall y  bu’n rhaid ymgymryd â hi oedd dysgu “Hen Wlad fy Nhadau” i un o’r dosbarthiadau!  Yn ystod amser cinio, roedd pob disgybl ac athro yn bwyta gyda’i gilydd a doedd dim  dewis o brydau – roedd pawb i fwyta’r un peth. Cyri oedd ar y fwydlen pob dydd, gyda’r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith fod bopeth yn organig. Roedd rhaid bod yn ofalus be roeddem yn yfed gan fod dŵr tap Kathmandu yn beryglus iawn. Yn aml iawn dŵr wedi ei ferwi oedd ar gael i’w yfed gyda’r plant yn ysu, ar adegau, am wydryn o ddŵr oer Waunfawr!  Ar ôl dychwelyd adref mae nifer wedi holi sut oedd y plant yn cymharu gyda rhai  Cymru? A’r ateb ?Tebyg iawn ar y cyfan, pob un yn groesawgar ac eisiau ein holi’n dwll! Roedd y disgyblion yn groesawgar a braf oedd gweld ein bechgyn ni yn setlo mewn dim; Alffi yn rhedeg o amgylch y lle gyda’i ffrindiau newydd a Gruff wedi cael cynnig mynd i chwarae pêl-droed gyda phlant o’r un oed. 

Mae 90% o ysgolion Kathmandu yn rhai preifat a rhaid talu tua £200 y mis i fynychu  Ysgol Aksharaa (ac i’w roi mewn cyd-destyn, £200 yw cyflog misol athro yn Kathmandu). Plant gweithwyr y llywodraeth, plant y lluoedd arfog a phlant doctoriaid oedd y rhan fwyaf a oedd yn mynychu’r ysgol.

Mae ysgolion y wlad yn rhai tlawd iawn, ble nad oes toiledau a pharhau y mae’r hawl gan athrawon i guro’r plant mae’n dal yn digwydd heddiw. Doedd rhai plant ddim hyd yn oed yn mynd i’r ysgol, gyda nifer i’w gweld yn gwerthu dŵr ar y strydoedd a rhai hyd yn oed yn gweithio’n adeiladu ffyrdd.  Un p’nawn cawsom wahoddiad i dwrnament pêl-droed rhwng yr ysgolion lleol a  chafodd yr hogia chwarae i dȋm ysgol Aksharaa. Wrth siarad ychydig gyda’r trefnwyr dyma ddigwydd son fy mod yn hyfforddi pêl-droed fy hun yng Nghymru – wel sôn am gynhyrfu – rheolwyr y timau gyd yn dod ataf, eisiau ysgwyd llaw a llawn awydd gwneud trefniadau i ddod draw i Gymru am gêm!!

Ar nodyn ychydig yn fwy difrifol, cefais rybudd yma i adael i’r ysgol wybod am unrhyw un oedd yn gwneud ymgais ddifrifol i drefnu i ddod draw i Gymru – gan fod rhai yn mynnu statws ceiswyr lloches Er ei bod hi’n fis Chwefror ac yn nesau at ddiwedd y gaeaf yno, roedd hi’n gynnes iawn a roeddem i gyd wedi llosgi ar ôl bod allan yn yr haul drwy’r dydd.  Un peth rhyfedd iawn i ni sylwi arno oedd ein bod yn gorfod talu mwy i fynd i mewn i  lefydd a thalu mwy am fwyd a diod nag yr oedd y bobol leol.

Roedd hen chwerthin pan ar fwy nac un achlysur pan dywedwyd wrthym “Nepal man cheap price”, yna edrych arnym a dweud “white man – big price!!” – a doedd dim i’w wneud ond talu y pris uchaf.  Ar ôl pum diwrnod blinedig iawn yn yr ysgol, roedd Rama wedi trefnu i ni gael noson mewn gwesty yn y mynyddoedd, yn Dhulikhel, tua 2 awr i ffwrdd o Kathmandu. Amser i ymlacio oedd hyn, i ffwrdd o’r sŵn a’r prysurdeb sydd i’w gael yn feunyddiol yn Kathmandu, ac yn wir roedd hyn fel nefoedd. Wnawn ni fyth anghofio’r profiad o eistedd tu allan yn bwyta brecwast yng nghysgod mynyddoedd yr Himalayas.  Nid hwn oedd y tro cyntaf i’r hogia fod yn Asia gan fod y ddau wedi cael bod yn China ac yn Japan yn y blynyddoedd diwethaf ond rhaid nodi mai yn Nepal yr oedd y bobol mwya cyfeillgar, yno y profwyd y croeso cynhesaf a theimlwn ein bod wedi neud ffrindiau da iawn yno. Cyn ffarwelio a’r ysgol, cawsom gynnig i fynd nol atynt mewn 2 flynedd – ac os bydd cyfle addas yn codi mae’n wir dweud y byddem yn neidio ar y cyfle i ddychwelyd.