Ar ben arall i’r Lein – Eco’r Wyddfa

Colofn ‘Sgota Eco’r Wyddfa – o rifyn Ebrill Eco’r Wyddfa nad aeth i brint (creuwyd cyn lockdown!)

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Does dim i’w adrodd ar ddyddiau agoriadol y tymor newydd, ond fod ‘sgotwrs yn draddodiadol yn rhyw hen griw anodd i’w plesio ar adegau. Aeth rhyw ychydig allan i’w thrio hi, ond heb ddim lwc, gormod o ddŵr a rhy oer, dim pryfyn o gwmpas a hefyd y bont bach dros y ffos yn Crawia wedi ei malu’n llwyr gan y llifogydd diweddar. Mae’n amlwg felly fod tipyn o waith i’w wneud, ond dim tan fydd hi wedi cynhesu a sychu rhywfaint. Ond efallai na fydd hi ddim y bosib i mi a rhai o’r criw gynorthwyo’r gwaith oherwydd bod y Llywodraeth yn cysidro gwahardd pawb dros 70 rhag mynd allan o’r tŷ. Os daw hyn i rym mi fydd y lle acw yn boddi pan y plu ‘sgota fydd yn cael eu clymu! Sgwn i ga i fynd i’r tŷ gwydr i roi tendars i’r tomatos ar grawnwin. Efallai y bydd gennyf amser o’r diwedd i wneud tipyn mwy o’r gwin coch arbennig fydd yn gweld golau dydd acw o dro i dro dan y label Chateau Crawia!

Gyda dim i’w adrodd ar yr afonydd, rwy’n gwir obeithio y bydd y llynnoedd fydd yn agor ar yr 2fed o Fawrth yn dangos tipyn mwy o gynnydd. Ond, fel dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer yn cadw eu plu yn sych tan 1af Ebrill pan fydd Llyn y Dywarchen yn dechrau arni. Mae’r fan yma yn atyniad poblogaidd dros ben oherwydd safon y brithyll. Rhaid diolch yn y fan yma i’r criw bach ffyddlon sydd wrthi mor ddygn yn y ddeorfa, ac mae croeso i unrhyw un ddod draw i gymryd rhan i redeg y lle. Eleni cafwyd y stocio cyntaf ar 17 Mawrth, er mwyn i’r pysgod gael cynefino tipyn cyn y dydd agoriadol. Mae safon y pysgod eleni yn arbennig gyda chymysgedd o frithyll brown, enfys a glas, dyma i chi sgodyn arbennig yw’r brithyll glas, yn enwedig yn y badell. Bydd stocio misol wedyn hyd Medi o ddeorfa Trawsfynydd.

Gobeithio’n wir y bydd yr holl argyfwng salwch sydd yn troi o’n cwmpas ar y funud wedi clirio erbyn Gorffennaf. Dyma’r amser, fel arfer. y byddaf yn edrych am rhyw dorgoch neu ddau, wel, felly oedd hi o leiaf cyn problemau Padarn. Rhaid imi gyfaddef mai ychydig iawn dwi di bod yn rhoi tro arnynt ers blynyddoedd, heblaw yn achlysurol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Wel, eleni mae gwir oleuni ar y gorwel, ac rwyf am ail ymadrodd be ‘rwyf wedi gyffwrdd ag o flynyddoedd yn ôl. Cefais fy narbwyllo gan rai oedd yn adnabod yr hen lyn yn iawn, i’r ffaith fod nifer o wahanol rywogaethau o dorgoch yn Padarn, wedi ei rhannu yn ôl eu mannau bwrw grawn, rhai yn nhennau Penllyn eraill yng ngheg afonydd Goch a Las, eraill yn Afon y Bala a thorgoch Peris yn defnyddio’r tennau ger aber Afon Hwch, hefyd afonydd Dudodyn a gwaelod Afon Peris. Yn anffodus nid yw Llyn Peris na’r Afon Dududyn ar gael erbyn heddiw.

Yn y cyfnod yn dilyn deori roedd y torgochiaid i gyd yn cymysgu’n hapus gyda’i gilydd yn y llyn, ond pan ddaeth unwaith eto yn amser claddu mi fyddai’r gwahanol rywogaethau yn gwahanu a hel at leoliadau eu deori. Wel fel yna roedd hi cyn y problemau, ble gwelwyd budreddi yn gorchuddio gwaelod y llyn ac yn ei gwneud yn amhosib i’r torgochiaid fwrw grawn yn y llyn ei hun. A dyna oedd dechrau problemau argyfwng niferoedd ym Mhadarn.

Fel mae pawb yn gwybod mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen dros y pedair blynedd diwethaf i wella safon y dyfroedd, ac mae’n amlwg fod pethau’n gwella’n sydyn. Rydym wedi bod yn cadw golwg ar Penllyn i weld os yw’r torgochiaid yn dechrau ymledu a defnyddio rhai o’u hen lecynnau magwrol unwaith eto. Mae cryn gymorth yn y gwaith yma yn cael ei gario allan gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf mae trap pysgod wedi ei osod yn y llyn uwchben Pont Penllyn. Wel o bleser mawr i bawb mae torgochiaid bychain – newydd eu deori wedi eu dal ynddo. Ardderchog, clod mawr i bawb, hyd yn oed Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

Yn dilyn atal cynllun stocio eog i’r Seiont, oedd yn cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud iawn am y magwrfeydd a gollwyd drwy adeiladu Gorsaf Dinorwig, fe gytunwyd fod arian i’w gael i wella cynefinoedd y dalgylch. Yn anffodus mae rheoleiddio’r arian i wneud y gwaith wedi ei drosglwyddo gan CNC i Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru. Gan fod y Gymdeithas yn aelod o’r corff yma rydym yn cael awgrymu gwaith sydd angen ei wneud i wella’r pysgodfa. Yn barod mae gwaith wedi ei wneud i adfer rhai o byllau’r Finiog a hefyd atgyweirio criw Llyn Harri Parri. Ar 10ed o Fawrth cafwyd cyfarfod i gytuno ar waith a fyddai’n ddymunol i’w wneud eleni, os bydd y tirfeddianwyr yn cytuno – dyma a awgrymwyd: Tacluso mannau claddu a hwyluso mynediad i rai o is-afonydd y Seiont a Llyn Padarn ac ail drefnu rhai o byllau’r Afon Llyfni. Bydd mwy ar hyn yn y misoedd nesaf.

Wrth gau mae’n amlwg bod cyfyngiadau llym ar y gweill i geisio cadw’r hen firws ’ma sy’n lledaenu drwy’r wlad dan reolaeth. Efallai y bydd hyn yn codi anhawster mawr i rai o’n cymdogion hŷn a rhai sydd ddim mewn llawn iechyd – cofiwch gadw mewn cysylltiad â hwy rhag ofn eu bod angen unrhyw gymorth.

Huw Price Hughes