Apêl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ymwelwyr

Fe fydd pobl yn gallu teithio ymhellach na phum milltir wrth i’r rheol “aros yn lleol” ddod i ben.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi apelio ar ymwelwyr i osgoi lleoedd rhy brysur.

Mae Prif Weinidog Cymru hefyd wedi annog ymwelwyr i’r wlad i ymddwyn yn “gyfrifol a diogel” wrth i’r cyfyngiadau teithio gael eu llacio heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 6).

Fe fydd pobl yn gallu teithio ymhellach na phum milltir wrth i’r rheol “aros yn lleol” ddod i ben.

Mae’n golygu y bydd ymwelwyr yn cael teithio i Gymru a theithio o amgylch y wlad am y tro cyntaf ers i’r cyfyngiadau ddod i rym ym mis Mawrth.

Fe fydd atyniadau awyr agored hefyd yn ail-agor gan arwain y ffordd at groesawu ymwelwyr yn y sector twristiaeth o Orffennaf 11, os yw’r amodau yn caniatáu hynny.

Troedio’n ysgafn

Mae’r Parc Cenedlaethol yn annog ymwelwyr i “droedio’n ysgafn” – sef bod yn hyblyg yn eu trefniadau a bod yn barod i symud i rywle arall os ydyn nhw’n digwydd cyrraedd ardal sy’n prysuro.

Mae’r canllawiau eraill sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Parc yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol ymhobman gan gofio am fannau cyfyng, a pharcio yn y mannau priodol yn unig.

Caiff yr apêl daer ar i ymwelwyr ymddwyn yn gyfrifol ei thanlinellu mewn neges fideo ar wefan y Parc, lle mae naturiaethwyr lleol yn dangos cymaint mae byd natur wedi elwa o gael llai o bobl, a meddyg yn trafod pryder cymunedau lleol am beryglon ail don o’r feirws.