Her 1,000 Cilomedr CPD Waunfawr

CPD Waunfawr yn codi arian i weithwyr y GIG.

gan Osian Glyn

Oherwydd y pandemig aruthrol dani wrthi’n ei wynebu, mae Clwb Pêl Droed Waunfawr wedi penderfynu ein bod ni’n awyddus (fel sawl arall) i wneud rhywbeth bach er mwyn rhoi yn ôl i weithwyr allweddol GIG.

Bydd aelodau o’r clwb, sy’n cynnwys chwaraewyr presennol ac aelodau’r pwyllgor, yn anelu i redeg 1000 o gilomedrau drwy gydol mis Mai. Mi fydd hun yn gamp reit heriol i’r nifer sydd ddim yn gwneud llawer o redag mewn gemau fel mai!

Bydd stats pob sesiwn rhedeg yr unigolyn yn cael ei gofnodi ar STRAVA, a bydd cyfanswm cilomedrau’r tîm ar gael ar gyfryngau cymdeithasol y clwb yn rheolaidd.

Mae’r tîm wedi penderfynu cael y bel i rowlio drwy roi’r pres a gasglwyd drwy’r system ‘ffeins’ sydd fel arfer yn mynd at barti diwedd tymor at yr achos.

Rhowch yn hael at achos teilwng, byddwn yn hynod ddiolchgar o unrhyw gyfraniad tuag at ein hymdrech i roi rhywbeth bach yn ôl.

Linc I wefan Just Giving yma

Diolch!